Ar-lein, Mae'n arbed amser

Tafarndai’n cau am ganiatáu i gwsmeriaid ymddwyn ‘fel bod dim cyfyngiadau’

  • Categorïau : Press Release
  • 14 Rhag 2020
geograph-3002113-by-Jaggery

Mae dwy dafarn ym Merthyr Tudful wedi cael eu cau am bythefnos am dorri cyfyngiadau coronafirws drwy ganiatáu i’w cwsmeriaid ‘ymgynnull wrth y bar’ ac ‘ymddwyn yn gyffredinol fel na bod cyfyngiadau yn eu lle.’

Ni allai swyddogion Tîm Gorfodi ar y Cyd Cwm Taf a aeth i’r Wyndham Arms yn Stryd y Glastir a’r Park View Inn ar Heol Aberhonddu ‘gredu’r diffyg rheolaeth, y lefelau staffio isel a’r diffyg ymwybyddiaeth gan staff a chwsmeriaid ar y safle.’

Mae’r Tim Gorfodi ar y Cyd yn cynnwys swyddogion o’r Cyngor Bwrdeistref Sirol, Heddlu De Cymru a Swyddogion Gorfodi Covid. Cafodd y tafarndai eu cau o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Cymru) 2020 am fethu â chymryd ‘mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â coronafirws neu ledaenu coronafirws gan y sawl a fu ar y safle.’

Cyflwynwyd hysbysiad cau gan Aneurin Hughes, Swyddog Gorfodi Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i Kevin Jones, perchennog y Wyndham Arms am dorri’r gofynion yn y ffyrdd canlynol:

  • Gwelodd Swyddogion Gorfodi, gwsmeriaid yn ymgynnull wrth y bar ac unigolyn yn cael ei weini wrth y bar. Dywedodd y gweinydd iddi ofyn i’r unigolyn eistedd, sawl gwaith ond iddo wrthod ac iddi felly ei weini.
  • Nid oedd ardal y bar yn cael ei lanhau a’i ddiheintio ar ôl i gwsmeriaid gael eu gweini ac roedd cwsmeriaid yn defnyddio’r bar fel ‘eu bwrdd.’
  • Ni chafwyd unrhyw ymdrech gan gwsmeriaid i gadw at ofynion ymbellhau cymdeithasol ac ni chafodd y gofynion eu gorfodi gan staff.
  • Roedd cwsmeriaid yn ‘siarad yn uchel iawn’ ac nid oedd tystiolaeth fod staff yn rheoli eu hymddygiad.
  • Yn ystod yr archwiliad, ni lanhawyd y fynedfa a’r ardal o’i amgylch ac roedd mewn defnydd parhaol gan naill ai - ‘gwsmeriaid newydd i’r safle neu gwsmeriaid yn mynd allan am sigarét.’
  • Nid oedd ardaloedd smygu allanol yn cael eu rheoli a doedd dim ciwio. Roedd cwsmeriaid yn smygu y tu allan heb unrhyw ymbellhau cymdeithasol ac yn gadael y safle heb orchudd wyneb.

“Roedd cwsmeriaid yn cael eu caniatáu i ymddwyn fel ei fod yn gyfnod normal,” dywedodd Paul Lewis, Pennaeth Diogelu a Gwasanaethau Diogelwch y Cyngor. “Roeddent yn rhydd i sefyll wrth y bar, archebu a thalu am eu diodydd wrth y bar, gweiddi ar ei gilydd o ben draw’r ystafell ac ymddwyn yn gyffredinol fel nad oedd unrhyw gyfyngiadau yn eu lle.”

Yn y Park View Inn, cyflwynodd Aneurin Hughes hysbysiad cau i’r perchennog, Neil Llewellyn am dorri’r gofynion yn y ffyrdd canlynol:

  • Nid oedd y Monitor Covid Dynodedig yn bresennol ac nid oedd yr aelod o’r staff, a oedd yn gweithio ar ei phen ei hun yn gwybod beth oedd i’w ddisgwyl ganddi.
  • Nid oedd yr Asesiad risg ar gyfer y safle ar gael i’r staff, cwsmeriaid a’r swyddogion gorfodi ei weld ac nid oedd yr aelod o’r staff a oedd yn bresennol yn gwybod beth ydoedd.
  • Gwelodd Swyddogion Gorfodi pobl yn cael eu gweini wrth y bar ac nid oedd ardal y bar yn cael ei lanhau a’i ddiheintio wedi i gwsmeriaid gael eu gweini yno.
  • Roedd y gerddoriaeth gefndir yn uwch na’r hyn a oedd yn dderbyniol i ganiatáu sgwrs gyffredin - roedd lefel y sain yn cael ei droi i fyny o hyd yn ystod yr archwiliad ac roedd cwsmeriaid ‘yn siarad yn uchel iawn,’ a doedd dim tystiolaeth fod staff yn rheoli eu hymddygiad.
  • Nid oedd gweini wrth fyrddau ac nid oedd staff yn gorfodi gofynion ymbellhau cymdeithasol.

“Eto, caniatawyd cwsmeriaid i ymddwyn fel ei fod yn gyfnod normal,” meddai Paul Lewis.

“Nid oedd staff yn ymwybodol o’r cyfyngiadau oedd yn eu lle ac nid oedd ganddynt unrhyw ddealltwriaeth o’r hyn oedd yn ddisgwyliedig - roedd hyn yn tynnu sylw at y diffyg hyfforddiant a’r oruchwyliaeth ar y safle.”

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio a Diogelu’r cyhoedd: “Hoffai’r Cyngor hysbysu pob safle trwyddedig yn y Cyngor Fwrdeistref ein bod yn cymryd y rheoliadau hyn ac unrhyw dramgwydd ohonynt yn ddifrifol iawn.

“Mae’n ddychryn fod gan y safleoedd hyn gyn lleied o ymwybyddiaeth o’r ffaith fod achosion coronafirws ar gynnydd ym Merthyr ac y gallai caniatáu ymddygiad o’r fath wneud y sefyllfa’n waeth.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni