Ar-lein, Mae'n arbed amser
Talentau dylunio disgyblion o fudd i elusen gofal seibiant y Nadolig hwn
- Categorïau : Press Release
- 22 Tach 2019
Bu artistiaid ifanc o Ferthyr Tudful, rai ohonynt mor ifanc â phum mlwydd oed yn arddangos eu sgiliau tynnu llun a lliwio mewn cystadleuaeth i gynhyrchu cardiau Nadolig ar gyfer eu hysgol.
Bydd gwaith chwe disgybl o Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn cael eu harddangos mewn bocs o gardiau a fydd yn cael eu cynhyrchu gan Morgan Sindall, y tîm sy’n adeiladu gorsaf fysiau newydd Merthyr Tudful a fydd gyferbyn â safle’r ysgol.
Gofynnodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Morgan Sindall i’r plant ddylunio carden Nadolig yn seiliedig ar thema trafnidiaeth a chafwyd syniadau a oedd yn cynnwys ceir llusg, bysiau a hyd yn oed yr orsaf fysiau newydd ei hun.
Dyfarnwyd y wobr gyntaf i Rio Jones, sy’n naw oed, yr ail wobr i Ava Long, chwech oed a’r drydedd wobr i Ella Giblin, deg oed. Derbyniodd tri o blant, sef Chloe Chidgey-Lloyd, deg oed, Miles Morgan, pump oed ac Olly Mitchell Davies, naw oed, ganmoliaeth uchel.
Derbyniodd y disgyblion wobrau a oedd yn cynnwys hamperau Nadolig ar gyfer eu teuluoedd, tocynnau sinema a thalebau siopa.
Bydd y cardiau’n cael eu gwerthu gan yr ysgol er mwyn codi arian i’w helusen ddynodedig, HCPT Group 102. Mae’r HCPT (The Hosanna House and Children's Pilgrimage Trust) yn elusen genedlaethol sy’n mynd â phlant anabl a phlant sydd o dan anfantais ar bererindodau i Lourdes yn Ffrainc.
Lleolir Group 102 yng nghymoedd De Cymru a phob blwyddyn, bydd yn mynd a hyd at 10 o bobl ifanc o’r gymuned leol ar bererindod i Lourdes yn Ffrainc. Yn aml, hwn fydd yr unig gyfle y bydd y plant yn eu cael i fynd ar wyliau ac mae’r wythnos yn darparu gofal seibiant angenrheidiol i’w rhieni.
Dywedodd Karen Wathan, Pennaeth Gweithredol Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair: “Gwnaeth y disgyblion fwynhau defnyddio’u sgiliau creadigol a syfrdanwyd hwy gan garedigrwydd Morgan Sindall a gyflwynodd wobrau anhygoel i’r enillwyr.”
Dywedodd Ross Williams, Rheolwr Prosiect Morgan Sindall: “Mae bob amser yn wych i allu ymgysylltu â’r gymuned leol ac ysgolion a chael cyfle i ledaenu llawenydd y Nadolig a hynny â chefnogaeth yr awdurdod lleol. Roedd disgyblion yr ysgol yn wych ac roedd yn anodd iawn i ni ddewis enillydd!”
• Mae gorsaf fysiau newydd Merthyr Tudful yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd ar hen safle swyddfa’r heddlu ar Stryd yr Alarch a disgwylir y bydd wedi ei chwblhau erbyn Hydref 2020.
Dyfarnodd Llywodraeth Cymru gyllid gwerth £10 miliwn o bunnoedd ar gyfer yr orsaf a fydd wedi ei lleoli’n nes at orsaf drenau’r dref er mwyn cyd-fynd â’r buddsoddiad sylweddol yn Rhwydwaith Prif Linellau’r Cymoedd.