Ar-lein, Mae'n arbed amser

Disgyblion yn helpu preswylwyr Glynmil i ddathlu Mis Hanes Teithwyr Roma a Sipsiwn

  • Categorïau : Press Release
  • 07 Gor 2022
Glynmil History Week

Mae plant ysgol a phreswylwyr eraill wedi ymweld â Maes Carafanau Glynmil ym Merthyr Tudful i ddysgu mwy am ddiwylliant y teithwyr.

Dathlodd mwy na 20 disgybl o Ysgol Gynradd Abercanaid Fis Teithwyr Roma a Sipsiwn gyda cherddoriaeth werin, crefftau chwaraeon a sinema.

Mwynhaodd y plant arddangosfa focsio- sydd wedi ei ddatblygu ar y safle gan Pride Boxing - yn ogystal â sgiliau syrcas, peintio wynebau, creu anifeiliaid allan o falŵns a chrefftau sgrolio Teithwyr a Sipsiwn.

Trefnwyd y gweithgareddau gan Hyb Cymunedol Twyn, y Meithrin, sefydliadau celf gymunedol Head4Arts a Masquerade Arts a 14 o bartneriaid eraill. Aeth tîm o Amgueddfa Cyfarthfa gyda llun olew o’r 19eg ganrif i’w arddangos.

Dwedodd y Dirprwy Faer y Cyng. Malcolm Colbran a oedd yn bresennol: “Mae’r Mis Hanes yn dathlu, addysgu a chodi ymwybyddiaeth am y diwylliant Teithwyr Roma a Sipsiwn, taclo rhagfarn, herio mythau a chynyddu ei llais o fewn cymdeithas.”

Dwedodd Rheolwr safle Glynmil, Lillie Bramley: “Arianwyd y diwrnod gan Gronfa Gydlyniad Llywodraeth Cymru, Project Fit and Fed Cymdeithas Tai Merthyr Tudful a Tesco a rhedodd y digwyddiad yn llyfn gyda diolch i’r gwirfoddolwyr am roi o’u hamser. Rydym yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiad hyd yn oed yn fwy'r flwyddyn nesaf!”

• Mae gwaith ailddatblygiad wedi dechrau yn dilyn grant Cyfalaf o dros £500,000 i ailwampio 24 bloc ar 8.3 acer o dir, sy’n safle Teithwyr/Sipsiwn ers 1977 gan Lywodraeth Cymru i’r Cyngor Bwrdeistref Sirol.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni