Ar-lein, Mae'n arbed amser

Disgyblion yn derbyn addysg STEM gan beirianwyr yr orsaf fysiau

  • Categorïau : Press Release
  • 25 Hyd 2019
St Mary's STEM

Mae plant ysgol o Ferthyr Tudful wedi bod yn dysgu am fyd peirianneg, a hynny yn sgil ymweliad gan aelodau o’r tîm sy’n adeiladu’r orsaf fysiau newydd.

Cafodd disgyblion o Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, sydd gyferbyn â safle’r orsaf fysiau newydd, gyfle i archwilio offer sy’n cael eu defnyddio ar safleoedd adeiladu.

Roedd yr ymweliad yn rhan o astudiaethau STEM blynyddoedd 3 a 4 (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) a chawsant gyfle i ddefnyddio laser troi, Mesurydd Pellter Electronig (MPE) ac offer peirianyddol eraill.

Roedd dau o gyflogai’r prif gontractwr, Morgan Sindal sef Greg Jones a Ross Williams wrth law i ddangos i’r hanner cant a rhagor o blant sut mae eu pecyn tirfesur yn gweithio a’u hannog i ‘roi cynnig arni.’

“Trafodwyd yr amrywiaeth eang o beirianwyr sy’n gweithio yn y byd adeiladu - peirianwyr sifil, strwythurol, trydanol, mecanyddol ac ati,” dywedodd Ross. “Bûm yna’n canolbwyntio’n fwy penodol ar rôl y peirianwyr safle fel y gall y disgyblion, pan fyddant yn edrych arnom, ddeall yn well beth rydym yn ei wneud.”

Mae’r laser troi’n cael ei ddefnyddio ar gyfer trosglwyddo lefelau ar safle adeiladu ac mae’r MPE yn cynnwys prism er mwyn archwilio pwyntiau penodol yn gywir ar y safle.

“Roedd y sesiwn ymarferol hon yn ddefnyddiol iawn iddynt gan fod modd iddynt weld sut roedd pethau’n gweithio a beth allai peirianwyr fod yn gwneud o ddydd i ddydd, ac yn bwysicach fyth, pam,” ychwanegodd Ross.

“Roed yn sesiwn hwyliog ac yn gyfle i’r disgyblion gyfranogi a chymryd rhan.”

Dywedodd Sarah Thomas, Arweinydd Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Ysgol: “Diolch o galon i Morgan Sindall am roi cyfle i ddisgyblion Ysgol y Santes Fair i ddysgu am beirianneg yn eu cymuned eu hunain. Cafodd y plant amser gwych yn archwilio gwahanol roliau, defnyddio offer a defnyddio sgiliau sy’n gysylltiedig â STEM mewn cyd-destun bywyd bob dydd.”

• Mae gorsaf fysiau newydd Merthyr Tudful yn cael ei hadeiladu ar hen safle gorsaf yr heddlu ar Stryd yr Alarch a gobeithir y bydd wedi ei chwblhau yn hydref 2020.

Dyfarnodd Llywodraeth Cymru £10m i’r Fwrdeistref Sirol er mwyn adeiladu’r orsaf fysiau sydd wedi ei lleoli’n agosach at orsaf drenau’r dref ac sy’n cyd-fynd â’r buddsoddiad sylweddol yn Rhwydwaith Rheilffordd Llinellau Craidd y Cymoedd.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni