Ar-lein, Mae'n arbed amser

Yr Orsaf Fysiau Newydd yn Datblygu’n Gyflym

  • Categorïau : Press Release
  • 30 Ebr 2020
New bus station april 2020

Mae gorsaf fysiau newydd Merthyr Tudful yn prysur ddatblygu, ac yn ddiweddar fe gwblhawyd y gwaith o godi ffrâm ddur strwythurol yr adeilad.

Y cam nesaf fydd dechrau gweithio ar “amlen” yr orsaf sef dylunio ac adeiladu’r tu allan a gosod systemau cladin i sicrhau bod yr adeilad yn ddiddos.

“Mae’n gyffrous gweld yr adeilad yn dod yn fyw wrth inni ddechrau ei wneud yn ddiddos. Rwy’n falch iawn bod yr Awdurdod a’r rhanddeiliaid allweddol yn teimlo'r un mor wefreiddiol,” meddai Ross Williams, Rheolwr Prosiect y prif gontractwr Morgan Sindall Construction.

Mae proffil y to yn dilyn proffil Bannau Brycheiniog ac mae’r strwythur ei hun yn cynnwys 135 tunnell o ddur a roliwyd yn boeth, ac mae’n mesur 80m o hyd ac 11.4m o uchder. Cymerodd chwe wythnos i’w godi, gan gynnwys y lloriau a’r grisiau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd, y Cynghorydd Geraint Thomas: “Mae Morgan Sindall Construction yn cadw at y safonau iechyd a diogelwch llymaf ac yn sicrhau bod y mesurau ymbellhau cymdeithasol priodol yn cael eu dilyn bob amser yn ystod y sefyllfa bresennol.

“Rydyn ni i gyd yn hapus iawn â’r cynnydd rhagorol a wnaed gan ein timau contract ar yr orsaf fysiau newydd,” ac ychwanegodd, “Mae’n waith trawiadol, a byddwn ni’n teimlo hyd yn oed yn fwy cyffrous i weld y cam nesaf.”

• Mae’r orsaf fysiau newydd yn cael ei hadeiladu ar safle’r hen orsaf heddlu yn Stryd yr Alarch, a disgwylir cwblhau’r gwaith yn ystod y gwanwyn flwyddyn nesaf.

Dyfarnodd Llywodraeth Cymru gyllid o £10m i’r Cyngor Bwrdeistref Sirol ar gyfer yr orsaf, a fydd yn cael ei lleoli’n agosach at orsaf reilffordd y dref. Bydd hyn yn cyd-fynd â’i fuddsoddiad sylweddol yn Rhwydwaith Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni