Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mwy nag erioed o’r blaen o breswylwyr Merthyr Tudful yn cael budd o Lwybr Taf

  • Categorïau : Press Release
  • 28 Ion 2021
Taff Trail lockdown usage

Mae niferoedd mawr o breswylwyr Merthyr Tudful wedi cael budd o ymweld â mannau agored Llwybr Taf yn ystod y pandemig. Cofnodwyd cynnydd o dros 90% yn nifer yr ymweliadau yn ystod y tri chyfnod clo.

Yn ystod y flwyddyn, cafwyd cynnydd o 49% yn nifer yr ymweliadau ac yn ystod y cyfnodau clo, gweld cynnydd o 92% - o 186,075 ar gyfer yr un cyfnodau yn 2019 i 357,301 yn 2020.

Mae cyfrifwyr ymwelwyr wedi dangos fod cyfanswm o 723,377 o ymweliadau wedi eu cofnodi yn 2020 o’u cymharu â 486,916 yn 2019. 

Roedd hyn yn cynnwys cerddwyr, beicwyr ac unigolion yn marchogaeth ar hyd y Llwybr sy’n rhedeg am 14 milltir trwy gefn gwlad mwyaf prydferth y fwrdeistref sirol.

Cafodd y data ei gasglu gan Dîm Rheoli Cyrchfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar gyfer Cynllun Llwybrau Rhaglen Ardal yr Iwerydd a ariannir gan yr UE. Mae’n fenter ryngwladol sy’n ceisio annog ymwelwyr a phreswylwyr i wneud y gorau o’r amgylchedd sydd ar stepen eu drysau.

“Rydym yn trysori’r Llwybr Taf ac mae’n eglur ei fod wedi cael ei ddefnyddio fel ased allweddol yn ystod y cyfnod ansicr hwn a bod preswylwyr yn ei weld fel man diogel lle y gallant fynd i ymarfer,” dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd.

“Mae’r mwyafrif ohono yn ddi-draffig a gellir cael mynediad iddo’n hawdd gan y sawl sydd yn byw ynghanol y dref a gan y mwyafrif o’n pentrefi. Mae wedi profi i fod yn adnodd gwerthfawr ar gyfer y gymuned ac yn gymorth i gynnal llesiant meddwl a chorfforol yn ystod yr argyfwng hwn.”

Dechreuodd y cyfnod clo cyntaf ar 23 Mawrth 2020 ac ar wahân i’r bythefnos gyntaf lle y gofynnwyd i bobl aros gartref, gwelwyd cynnydd graddol yn nifer y defnyddwyr wythnosol. Cofnodwyd y niferoedd uchaf yn ystod pythefnos olaf mis Mai. Roedd y ffigurau 85% yn uwch na’r hyn oeddent yn ystod yr un cyfnod yn 2019.

Cofnodwyd cynnydd yn ogystal yn ystod y cyfnod atal byr o dair wythnos ym mis Hydref a Thachwedd; cynnydd o 83% o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2019.

Yn ystod y trydydd cyfnod clo cenedlaethol o 26 Rhagfyr 2020, gwelwyd cynnydd o dros 53% o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2019.

“Mae’r ystadegau a gasglwyd yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf yn dangos fod y defnydd wedi cynyddu’n flynyddol ers 2016,” ychwanegodd y Cynghorydd Thomas. “Yn fwy o ryfeddod yw’r ffigurau ar gyfer wythnos gyntaf Ionawr 2020 lle y gwelwyd cynnydd o 114% o’i gymharu â 2020. Cafwyd 14,624 o ymweliadau o’u cymharu â 6,089 ar gyfer yr un wythnos yn 2020.”

  • Cafodd Cynllun Llwybrau Rhaglen Ardal yr Iwerydd ei sefydlu er mwyn canfod ffordd newydd i annog pobl yn y DU, Iwerddon, Sbaen, Portiwgal a Ffrainc i “ddarganfod eu cymunedau lleol a gwledig ac ymgyfoethogi mewn profiadau bywyd, diwylliannol a choginio newydd.”

Cefnogir y cynllun gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop ac mae gan y cynllun 10 o bartneriaid o ranbarthau gwahanol yr Iwerydd, yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni