Ar-lein, Mae'n arbed amser

Hwb cymunedol yn y Gurnos wedi ei ailwampio yn agor ei ddrysau i breswylwyr

  • Categorïau : Press Release
  • 23 Chw 2023
Compass Centre (1)

Bydd canolfan gymunedol a phreswyl ym Merthyr Tudful sydd wedi derbyn rhaglen ailddatblygu£1.2m yn cael ei agor yn swyddogol fis nesaf.

Mae Project Tai a Hwb Cymunedol Cwmpawd yn y Gurnos, y cyn Ganolfan Ddysgu Gymunedol (CDG), yn cael ei agor gan Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar Fawrth 22.

Ar Fawrth 23, bydd yr Hwb yn cynnal diwrnod agored, ble bydd pobl yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn gweithdai lles, meddylgarwch, TG a sgiliau digidol, gwaith coed, gwasanaeth cwsmer a manwerthu, gwneud gemwaith, gweithgareddau crefft a sesiwn blasu harddwch.

Agorwyd y CDG yn wreiddiol fel fflatiau i breswylwyr, ond am y 25 mlynedd diwethaf mae wedi ei ddefnyddio fel canolfan addysgol i helpu pobl ifanc di-waith ac oedolion i ddod o hyd i yrfa a gwaith.

Fel rhan o Raglen buddsoddiad Cyfalaf yr Awdurdod Lleol, mae’r cyfleusterau cyflogadwyedd a hyfforddiant wedi eu hail leoli i ddau o’r tri bloc. Mae’r trydydd wedi ei droi yn bum fflat.

Dyfarnwyd £1,129,174 i’r Cyngor am y project gan Raglen Cyfalaf Dewisol Cronfa Gofal Integredig Cwm Taf Morgannwg, sydd wedi nodi gweithio gyda phobl ifanc a phlant mewn gofal fel blaenoriaeth allweddol, a hefyd £129,115 gan Gronfa Gofal Tai Llywodraeth Cymru trwy Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg.

“Bydd Hwb Cymunedol Cwmpawd yn rhan ganolog o’r gymuned a’r fwrdeistref gyfan gyda’r bwriad o annog dysgu a dysgu sgiliau newydd, gwella lles a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol,” meddai’r Cynghorydd Geraint Thomas, Arweinydd y Cyngor. 

“Bydd y project yn cael effaith sylweddol ar yr ardal, gan adfywio adeiladau oedd wedi gweld dyddiau gwell a gwneud y gymuned yn lle bywiog a deniadol i fyw, ac i ymweld â hi er mwyn dysgu sgiliau newydd a fydd yn arwain at waith.”

  • Bydd Diwrnod Agored Hwb Cwmpawd yn digwydd ar Fawrth 2023, rhwng 11am-7pm. Yn ogystal â’r sesiynau blasu fydd ar gael, bydd staff yn tywys ymwelwyr o gwmpas gan siarad am y gwasanaethau sydd ar gael.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni