Ar-lein, Mae'n arbed amser

Adnewyddu Ysgol Sy'n Paratoi'r Ffordd Ar Gyfer Dulliau Adeiladu'r Dyfodol Yng Nghymru

  • Categorïau : Press Release
  • 09 Mai 2023
Pen Y Dre

Mae’r gwaith yn datblygu o ran prosiect adnewyddu sylweddol yn un o ysgolion Merthyr Tudful, prosiect sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer dulliau adeiladu’r dyfodol parthed cyfleusterau addysgol yng Nghymru.

Morgan Sindall Construction enillodd y cytundeb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yr Haf diwethaf ar gyfer Ysgol Uwchradd Pen y Dre. Unwaith bydd y cytundeb wedi dwyn i ben dyma fydd y prosiect adnewyddu mawr cyntaf i gyflawni carbon sero net yng Nghymru.

Mae’r cynllun wedi ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy sy’n anelu at fuddsoddi mewn, a gwella, cyfleusterau addysgol.

Dilynodd y newyddion gyhoeddiad gan Aelodau Seneddol sydd wedi galw ar berchnogion i atal rhag dymchwel adeiladau er mwyn arbed carbon, a blaenoriaethu ôl-osod ac ail-ddefnyddio adeiladau dros ddymchwel ac ail-adeiladu.

Bydd y prosiect yn defnyddio CarboniCa, teclyn digidol arloesol Morgan Sidall ar gyfer lleihau carbon, teclyn sy’n galluogi’r contractwr i gefnogi eu cwsmeriaid i ddatgarboneiddio cymunedau lleol.

Mae CarboniCa yn rhan o ddull Atebion Deallus Morgan Sindall, dull sy’n dwyn ynghyd galluoedd digidol a dylunio platfform a dulliau adeiladu modern a theclynnau lleihau carbon arloesol er mwyn creu lleoliadau unigryw, cynaliadwy ac ysbrydoledig i’w cwsmeriaid. Mae’n mesur allyriadau carbon gydol-oes, gan sicrhau y gall allyriadau carbon posib gael eu rheoli a’u lleihau yn ystod y broses ddylunio, adeiladu a thrwy gydol einioes yr adeilad.

Bydd y contractwr yn defnyddio’r ffrâm a’r strwythur sydd ohoni ac yn troi’r adeilad 50 mlwydd oed mewn i adeilad sy’n addas ar gyfer safonau modern, gan weithio’n agos gyda pheirianwyr sifil a phenseiri a gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf.

Mae’r cynllun wedi ei greu er mwyn sicrhau’r lleihad eithaf mewn carbon gyda chymorth CarboniCa a bydd yn defnyddio pwmp gwres ffynhonnell aer a chyfarpar mecanyddol a thrydanol, sy’n golygu bydd yr adeilad yn rhedeg heb danwydd ffosil. Mae hefyd wedi ail-ddefnyddio deunyddiau ac mae Morgan Sindall Construction wedi llwyddo i ddarparu ystafelloedd Technoleg Gwybodaeth newydd i’r ysgol.

Adnewyddiad ysgol Pen y Dre yw un o’r rhai mwyaf yng Nghymru a bydd yn cynyddu maint yr ysgol o 800 i 1,100 lle i ddisgyblion rhwng 11 ac 16 mlwydd oed.

Bydd cynllun newydd yr ysgol uwchradd dri llawr 14,000 metr sgwâr yn golygu bod yr ysgol yn fwy hygyrch, bydd llawer o risiau’n cael eu tynnu o’r lleoliad gwreiddiol a bydd hwn yn gwella’r darpariaethau’n ddirfawr.

Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys gwella’r pwll nofio cyfredol sydd ar agor i’r cyhoedd, gan gynyddu’r enw da sydd gan yr ysgol am adnoddau chwaraeon penigamp.

Drwy gydol y datblygiadau hyn, bydd Morgan Sindall Construction yn ymdrechu i sicrhau fod yr adeilad yn parhau mor garbon niwtral â phosib wedi i’r gwaith ddod i ben drwy gynnal ystod o weithdai i athrawon a disgyblion er mwyn eu haddysgu ynghylch cynaladwyedd a sut i ddefnyddio’r adeilad mewn modd effeithiol.

Bydd y prif gontractwr yn defnyddio’i brofiad helaeth mewn adeiladu cyfleusterau addysgol, yn cynnwys gweithio mewn ysgolion byw, a bydd yn adeiladu ac yna’n trosglwyddo Pen y Dre mewn camau er mwyn osgoi tarfu ar ddysgu.

Dwedodd Robin Williams, rheolwr ardal gyda Morgan Sindall Construction: “Mae Pen y Dre’n ddatblygiad anhygoel o bwysig i ni, y gymuned leol a Chymru gyfan. Dyma fydd yr ysgol sero net gyntaf o’i maint i gael ei hadnewyddu, ac rydym yn credu y bydd hwn yn newid agweddau tuag at ddymchwel ac ail-adeiladu cyfleusterau sy’n bodoli’n barod.

“Rydym wedi sicrhau mai ein blaenoriaeth yw cysylltu gyda chymuned yr ysgol o’r cychwyn cyntaf er mwyn eu dysgu am gynaladwyedd, colli gwres ac adeiladu’n effeithlon er mwyn sicrhau bod yr holl ymdrech a roddwyd mewn i adeiladu ysgol garbon-gyfeillgar yn parhau gyda’r sawl fydd yn ei defnyddio.

“Byddwn yn gweithio’n agos iawn gyda’r awdurdod lleol er mwyn darparu ysgol o’r radd flaenaf, ysgol fydd yn ysbrydoli disgyblion a byddwn yn sicrhau bod cyn lleied o amhariadau a phosib i’r ardaloedd cyfagos ac i’r dysgu. Byddwn hefyd yn cydweithio gyda Merthyr Tudful ynghylch eu gwybodaeth am dargedau carbon a’n profiad ni o brosiectau eraill, megis ailgylchu ac ail-ddefnyddio deunyddiau cyfredol. 

“Rydym hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Eco’r ysgol, sydd wedi ei arwain gan y disgyblion, ac rydym wedi cynllunio cyfres o weithdai ynghylch cynaladwyedd a Sero Net. Mae’n wych gweld yr angerdd a’r brwdfrydedd sydd gan y disgyblion dros yr amgylchfyd a thros ddyfodol eu hysgol.

“Rydym yn falch iawn o’n hunain am feithrin talentau’r genhedlaeth nesaf, a bydd Pen y Dre’n brosiect enghreifftiol i brentisiaid ddysgu eu crefft ar leoliad o’r dechrau i’r diwedd o ganlyniad i hyd y gwaith adeiladu.”

Fel rhan o gynllun gwerth cymdeithasol Morgan Sindall Construction, maent wedi ymroi i gyflwyno disgyblion sydd efallai mewn peryg o beidio ag ymgymryd ag addysg bellach, na chyflogaeth drwy gynnig gwaith iddynt a thrwy gysylltu gyda disgyblion o’r cychwyn.

Bydd y prif gontractwr hefyd yn parhau i gefnogi cyflenwadau lleol drwy gydol y gwaith adeiladu. Hyd yn hyn mae wedi cyfeirio dros 90% o wariant drwy isgontractwyr Cymreig.

Dwedodd Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Siriol Merthyr Tudful ar gyfer Addysg, Michelle Jones: “Rydym yn falch iawn bod Pen y Dre’n cynorthwyo i osod y safonau ar gyfer ysgolion sero net yng Nghymru.

“Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio ers sawl blwyddyn tuag at gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru parthed sicrhau bod y sector gyhoeddus yn garbon niwtral, a sicrhau bod gwaith adeiladu newydd neu waith adnewyddu’n effeithlon o ran ynni – ein gorsaf fws newydd ni yw’r orsaf gyntaf yng Nghymru i fod yn gwbl drydanol.

“Ers cryn dipyn o amser bellach, mae gan Ysgol Uwchradd Pen y Dre enw da am yr uchelgais sydd ganddi fel ysgol dros bob un o’i disgyblion. Rydym wrth ein bodd bod yr adeilad ar ei newydd wedd yn mynd i fod yn un sydd gystal â’r uchelgais honno.”

Dwedodd Kurt Jones, Penseiri Lawray: “Mae cyflymder y newidiadau yn y diwydiant yn golygu bod safonau perfformio a pharamedrau derbyniol ar gyfer adeiladau sero net yn datblygu o hyd. Serch hynny, drwy’r cynllun a’r gwaith adeiladu arloesol ym Mhen y Dre mae’r tîm yn bwriadu gwella’r ymchwil ac uchelgais dull y diwydiant o ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Ein nod yw defnyddio Pen y Dre fel cynsail er mwyn sicrhau gallu pob un o brosiectau ail-osod y dyfodol i gyrraedd sero net wrth weithredu.”

Enillodd y datblygiad £1bn drwy Fframwaith Adeiladu Cydweithredol De Ddwyrain a Chanolbarth Cymru, a thrwy ran o hynny cwblhaodd y prif gontractwr Neuadd Breswyl Pantycelyn ar ran Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r gwaith ym Mhen y Dre’n dilyn cynnwrf o weithgaredd yn yr ardal ar gyfer y contractwr haen un yn cynnwys gwaith yn Ysgol Uwchradd y Brenin Henri’r VIII yn y Fenni ac Ysgol Uwchradd Hwlffordd.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni