Ar-lein, Mae'n arbed amser

Mae Partneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol yn Croesawu Cronfa Her yr Economi Sylfaenol gan Lywodraeth Cymru

  • Categorïau : Press Release
  • 31 Mai 2019
Frank Holmes - Colour

Mae Partneriaeth Twf Economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i ddyblu’i Chronfa Her yr Economi Sylfaenol i £3 miliwn. Mae’r penderfyniad yn gyson â chenhadaeth Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i greu rhanbarth mwy llewyrchus ac economaidd gynhwysol.

Yn gynharach eleni, dadlennodd Frank Holmes, Cadeirydd y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol (REGP), gynllun Twf Economaidd a Diwydiannol y rhanbarth, ynghyd ag arweinydd o’r Cyd-Gabinet yn Ne-ddwyrain Cymru, Llundain a MIPIM yn Ffrainc. Mae’n ymgorffori Fframwaith Buddsoddi a chanddo dair blaenoriaeth: arloesi, seilwaith a her, wedi’u hanelu at wella perfformiad Gwerth Ychwanegol Gros, creu swyddi newydd a throsoli hyd at £4 biliwn o fuddsoddiad.

Dywedodd Mr Holmes: “Mae’n galonogol gweld bod y penderfyniad hwn wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru ychydig cyn lansio’n cynllun Twf Economaidd a Diwydiannol. Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rhaglen gatalydd ar gyfer twf economaidd hirdymor, cynhwysol a chynaliadwy, gan groesawu arloesedd a chystadleugarwch, adeiladu ar ein cryfderau diwydiannol ac addysgol a rhoi sylw i’r heriau a nodwyd gan Strategaeth Ddiwydiannol y Deyrnas Unedig. Mae i Lywodraeth Cymru gydnabod a mabwysiadu’r ymagwedd hon yng nghyd-destun yr Economi Sylfaenol ar gyfer Cymru gyfan yn gam addawol.

“Mae blaenoriaeth yr her yn ymateb i ffactorau amharu cymdeithasol ac economaidd y dyfodol y gwyddys amdanynt heddiw, yn cynnwys deallusrwydd artiffisial, poblogaeth sy’n heneiddio, twf glân a dyfodol symudedd, tra bod buddsoddiadau her hefyd yn ceisio denu’r datrysiadau gorau ar gyfer y materion gwaelodol penodol sy’n wynebu’r rhanbarth. Gall y rhain fod yn y maes masnachol ond maent hefyd yn parhau yn yr Economi Sylfaenol sy’n hynod gynhwysol. Rydym yn gweithio’n uniongyrchol â Nesta i ddatblygu llwyfan Ymchwil a Datblygu er mwyn sicrhau bod y gronfa’n canolbwyntio o ddifri’ ar heriau ac yn creu piblinell brosiectau gadarn.


“Mae cydweithredu rhwng Llywodraethau’r Deyrnas Unedig, Cymru a Llywodraeth Leol ynglŷn â pholisi a buddsoddiad yn gonglfaen sylfaenol o’r cynllun Twf Diwydiannol ac Economaidd. Mae gan y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol ddiddordeb diffuant yn yr Economi Sylfaenol, sydd hefyd angen gwella’i chynhyrchiant, croesawu arloesedd a chreu modelau busnes cynaliadwy. Fodd bynnag, er mwyn ffynnu, mae arnom angen buddsoddi mewn ‘prosiectau a all ehangu’n effeithlon’ a gaiff effaith barhaol, fydd yn denu cyllid ychwanegol ac yn sicrhau bod buddsoddiadau’r Fargen Ddinesig yn fythol wyrdd, fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu parhau i fedi’r buddion ymhell wedi i’r arian hwn gael ei ddefnyddio.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni