Ar-lein, Mae'n arbed amser

Cofrestru i bleidleisio

  • Categorïau : Press Release
  • 14 Awst 2019
Annual Canvass.jpg

Mae apêl yn cael ei wneud i drigolion Merthyr Tudful i gynorthwyo’r Cyngor Bwrdeistref Sirol drwy ddychwelyd eu ffurflenni canfasio blynyddol yn brydlon.

Bu’n rhaid i’r cyngor dalu oddeutu £13,500 ar lythyron yn atgoffa pobl i ymateb i’r canfasio tai blynyddol. Mae’n ofynnol, yn gyfreithlon i’r Cyngor wneud hyn. Gallai’r arian hyn fod wedi cael ei ddefnyddio’n wahanol er mwyn cefnogi gwasanaethau eraill petai bobl wedi cwblhau’r ffurflen a’i ddychwelyd ar amser.

Bydd pob tŷ yn Fwrdeistref Sirol yn derbyn y ffurflen cyn hir sy’n gofyn i drigolion wirio os yw’r wybodaeth sy’n ymddangos ar y gofrestr etholwyr yn gywir.

Y bwriad yw sicrhau fod y gofrestr etholwyr wedi ei diweddaru ac i  ddynodi unrhyw drigolion sy’n eisiau.

O dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl, 1983 - sy’n gosod rheolau’r canfasio blynyddol - mae’n rhaid i’r awdurdod ysgrifennu at bob cartref, anfon dau nodyn atgoffa ysgrifenedig a chnocio ar bob drws nad sy’n ymateb er mwyn sicrhau ymateb.

“Rydym yn apelio ar drigolion i’n cynorthwyo drwy ddychwelyd eu ffurflenni cyn gynted ag y sy’n bosibl a fydd felly’n arbed cost fedrai gael ei ddefnyddio’n wahanol,” meddai y Swyddog Cofrestru Etholiadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

“Y mwyaf o ffurflenni y byddwn yn eu derbyn yn ôl ar fyrder, y mwyaf y medrwn eu harbed ar gostau ailargraffu, postio a thalu aelodau o’r staff i fynd ar ôl y rhai nad sy’n ymateb.

“Mae gweithio gyda’n gilydd yn ofnadwy o bwysig yn ystod yr amseroedd hyn o gyni. Gall unrhyw arbedion a  wneir ar waith gweinyddol nad sy’n angenrheidiol gael effaith gadarnhaol ar sicrhau fod adnoddau’n cael eu targedu at y gwasanaethau hynny sydd eu hangen fwyaf.”

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i gwblhau’r ffurflen neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cofrestru’ch pleidlais, cysylltwch â Gwasanaethau Democrataidd y Cyngor ar 01685 725000 neu e-bostiwch democratic@merthyr.gov.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni