Ar-lein, Mae'n arbed amser

Sul y Cofio Newidiadau yn sgil COVID-19

  • Categorïau : Press Release
  • 26 Hyd 2020
Remembrance Day

Yn sgil cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru am gyfnod atal byr ar gyfer Cymru o Ddydd Gwener 23 Hydref, bydd Sul y Cofio eleni yn wahanol iawn i ddigwyddiadau’r blynyddoedd diwethaf gan na fydd gorymdeithiau a hawl gan bobl i ymgasglu wrth gofebion rhyfel. Eleni, ar Ddydd Sul 8 Tachwedd 2020, byddwn yn talu gwrogaeth mewn modd sydd rhywfaint yn wahanol.

Bydd Ei Deilyngdod y Maer, y Cynghorydd Howard Barrett, yr Arweinydd, Kevin O’Neill, ac Aelodau o’r Cabinet a’r Wardiau yn gosod torchau ar gofebau rhyfel y wardiau, ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Y wardiau hynny fydd: Aber-fan, Pant, Dowlais, Parc Tre Thomas, Bedlinog, Cefn Coed, Canol y Dref, Treharris, Trelewis a Throedyrhiw.

Bydd unrhyw gofebion rhyfel sydd wedi eu clou yn cael eu hagor rhwng 6 ac 11 Tachwedd er mwyn i bobl adael eu torchau personol.

Fod bynnag, rydym yn annog ein preswylwyr i ymddwyn yn gyfrifol gan fynd at gofebau er mwyn gosod torchau er cof am anwyliaid yn unig a chadw at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol a rheol dwy fedr y Llywodraeth.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Kevin O’Neill: “Er y gall y digwyddiad bathau i fynd rhagddo, rydym yn eich annog i ystyried os yw’n gwbl hanfodol a synhwyrol i’w fynychu. Pwrpas y cyfnod clo byr yw creu ymdrech, yn genedlaethol i rwystro lledaeniad COVID-19 ac mae cyfraniad pob unigolyn i hynny yn cyfrif. Rydym am nodi achlysur Sul y Cofio a chydnabod y sawl a gollodd eu bywydau gan gofio’r aberth a wnaethpwyd yn ystod y rhyfeloedd hynny. Arhoswch gartref a chadwch yn ddiogel.”

Dywedodd cynrychiolydd ar rhan y Lleng Brydeinig Frenhinol: “Er gwaethaf y newidiadau eleni, rydym yn annog pobl, ar draws y wlad i sicrhau fod Sul y Cofio’n cael ei nodi mewn modd addas drwy gyfranogi mewn digwyddiad sy’n cadw at ymbellhau cymdeithasol, boed hynny drwy wylio gwasanaeth ar y teledu neu oedi am ddwy funud o dawelwch yn eich cartref neu ar stepen eich drws.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni