Ar-lein, Mae'n arbed amser

Prosiect ‘y Dadeni’ yn parhau i adfer ardal hanesyddol Pontmorlais ym Merthyr Tudful

  • Categorïau : Press Release
  • 01 Medi 2020
The Vulcan

Mae prosiect diweddaraf rhaglen gwerth £2.1 miliwn i adfer rhai o adeiladau mwyaf hanesyddol Merthyr Tudful tra’n darparu swyddi a hyfforddiant mewn sgiliau adeiladu i bobl leol wedi ei gwblhau.

Mae tafarn y Vulcan Inn o’r cyfnod Fictoraidd yn awr yn edrych fel ag yr oedd yn ystod yr 1800au wedi i’w nodweddion addurniedig cynnar a gollwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf gael eu hadfer, a hynny yn sgil prosiect Dadenni Parhaus Treflun Pontmorlais y Cyngor Bwrdeistref Sirol.

Cafodd £215,600 ei wario ar y dafarn a chafodd buddsoddiad y Cyngor ei gyfateb gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (CDLG.)

“Mae’r prosiect yn cynnal treflun unigryw rhan hynaf a phensaernïol mwyaf pwysig canol y dref sy’n diogelu ac yn ailgyflwyno’r nodweddion sy’n gwneud pob adeilad yn arbennig,” meddai’r Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd.

“Cafwyd gwaith adfer gofalus a defnyddiwyd dulliau a deunyddiau traddodiadol sydd i’w gweld mewn enghreifftiau eraill yn y dref sydd yn perthyn i gyfnod cynnar y datblygiad trefol.”

Yn ystod y ddegawd ddiwethaf, mae cyfanswm o £5 miliwn wedi’i fuddsoddi yn yr ardal a chafwyd gwaith adfer ar 16 adeilad gan gynnwys Neuadd Dewi Sant sy’n adeilad Gradd II rhestredig, Redhouse Cymru a Canolfan Soar. Yn gyffredinol, mae’r gwaith yn cynnwys ailosod wynebau siop traddodiadol, ffenestri pren, gwaith rendro traddodiadol, gosod llechi naturiol ar y to, gwteri haearn bwrw a simneiau.

Credir fod tafarn y Vulcan Inn yn perthyn i’r cyfnod Fictoraidd cynnar gan ei bod yn ymddangos ar fap o’r 1850au. Mae adeilad o faint tebyg yn ymddangos ar fap OS o 1836 felly gallai rhan o’r adeilad presennol fod hyd yn oed yn hŷn.

Cwblhawyd y gwaith adfer gan gwmni adeiladu lleol, Murphy & Sons. Yn sgil partneriaeth rhwng y Cyngor a Grŵp Cenedlaethol Hyfforddiant Gwaith To Cymru i ddarparu hyfforddiant mewn sgiliau adeiladu traddodiadol, derbyniodd tri o gyflogai’r cwmni hyfforddiant mewn gwaith plwm.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni