Ar-lein, Mae'n arbed amser

Annog Preswylwyr i Riportio Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

  • Categorïau : Press Release
  • 02 Meh 2020
Report ASB during Coronavirus

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Merthyr Tudful yn annog preswylwyr i riportio unrhyw achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ystod y cyfnod clo.

“Rydyn ni’n cwrdd yn fisol fel rhan o grŵp datrys problemau,” meddai Paul Lewis, Pennaeth Gwasanaethau Amddiffyn a Diogelwch y Cyngor. “Yn ystod y cyfarfodydd hyn, byddwn yn nodi’r ardaloedd problemus, y sawl sy’n cyflawni troseddau, a’r dioddefwyr. Yna, fe awn ati i ddefnyddio dull amlasiantaethol i ddatrys yr anawsterau. Mae riportio achosion o’r fath yn hanfodol i sicrhau ein bod yn cwrdd ag anghenion ein cymunedau.

“Gyda pharhad y cyfyngiadau a ddaeth yn sgil COVID-19, gofynnwn i breswylwyr ddefnyddio unrhyw un o’r opsiynau isod ar gyfer riportio digwyddiadau nad ydynt yn rhai brys i Heddlu De Cymru.”

Mae yna bedair ffordd o riportio achosion gwrthgymdeithasol:

Pwysleisiodd Mr Lewis fod y broses hon ddim ond ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys. Rhaid rhoi gwybod am bob argyfwng neu ddigwyddiad sy’n teilyngu ymateb syth trwy ffonio 999.

Pan fyddwch chi’n cysylltu, mae angen ichi roi manylion am beth sy’n digwydd, pwy sy’n gyfrifol, ble mae’n digwydd, pryd mae’n digwydd a sut maen nhw’n cyflawni’r digwyddiad.

Diolch am eich cymorth.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni