Ar-lein, Mae'n arbed amser

Preswylydd a roddodd wastraff i Ddynion Sgrap yn cael ei ddirwyo

  • Categorïau : Press Release
  • 03 Rhag 2019
Fly-tipping Facebook advert.jpg

Ddydd Mercher, 27 Tachwedd 2019, yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, pleidiodd Lloyd Jones o Pant yn euog o dair trosedd cyfrifoldeb gofal yn ymwneud â thipio anghyfreithlon. Cafodd ei orchymyn i dalu cyfanswm o ddirwyon a chostau, gwerth £1415.44.

Canfu swyddogion o Gyngor Merthyr wybodaeth yn perthyn i Mr Jones yn ystod dau archwiliad yn ymwneud â thipio anghyfreithlon ar Heol Parish, Ynys Owen ym mis Mai 2019. Cyfaddefodd hefyd i fethu â rheoli gwastraff a gafodd ei ganfod ar Heol Bogey yn Ionawr 2019.

Yn ystod yr ymchwiliad, dywedodd Mr Jones wrth swyddogion y cyngor ei fod wedi rhoi ei wastraff i ddynion metal sgrap a chyfaddefodd wrth y llys iddo fethu â chymryd cyfrifoldeb rhesymol ar bob achlysur i sicrhau lle yr oedd y gwastraff hwnnw’n mynd nac nad oedd yr unigolyn a oedd yn ei gludo yn gludydd awdurdodedig. O ganlyniad, derbyniodd ddirwy o £480 a’i orchymyn i dalu costau gwerth £905.44 a gordal dioddefwr gwerth £30.

Dywedodd Robert Barnett, Rheolwr Strydoedd y Gwasanaethau Cymdogol; “ Mae’r erlyniad hwn yn pwysleisio’r ffaith nad ydym yn goddef tipio anghyfreithlon ac ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau i ddiogelu’n amgylchedd rhag tipio anghyfreithlon.

“Rydym yn argymell yn gryf fod preswylwyr yn gwirio pwy y maent yn eu defnyddio i waredu eu gwastraff. Mae ganddynt gyfrifoldeb gofal i sicrhau fod gwastraff yn cael ei ddyddodi’n gywir a gallant gael eu herlyn am ddefnyddio rhywun i waredu gwastraff heb iddynt wneud y gwiriadau cywir er mwyn sicrhau lle y bydd eu gwastraff yn cael ei gludo.” 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni