Ar-lein, Mae'n arbed amser

Preswylwyr yn allweddol er mwyn gweithredu mesurau diogelwch ar y ffordd yn Nhwynyrodyn

  • Categorïau : Press Release
  • 18 Maw 2021
Twyn 20mph

 

Yn dilyn dau gam ymgynghorol â phreswylwyr a’r gymuned ehangach, rydym yn falch i gadarnhau fod system un ffordd a cyfyngiad cyflymder o 20mya yn dod i rym yn Nhwynyrodyn o Ddydd Sul 21 Mawrth 2021.  

Cyfrannodd bron i 500 o bobl at ein harolygon yn Hydref 2019 a Hydref 2020. Yn gyntaf i ddweud wrthym am eu barn ynghylch parcio hanesyddol a materion diogelwch ar y ffyrdd lleol ac yna i ddweud wrthym ba fesurau yr oeddent hwy am eu cyflwyno. 

Trwy gydol y broses, rhoddwyd ystyriaeth i nifer o fesurau, gan gynnwys clustogau arafu, parcio ar gyfer preswylwyr a chyfyngu ar gerbydau masnachol yn parcio yn yr ardal. Cytunwyd y dylai’r system un ffordd a’r clustogau cyflymder fod yn flaenoriaeth. 

Dywedodd y Cynghorydd David Hughes, Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdogol, fod: “Preswylwyr wedi bod yn lleisio’u pryderon ynghylch materion diogelwch ar y ffyrdd yn yr ardal ers peth amser. Drwy wrando ar eu hargymhellion ac edrych ar y ffordd fwyaf diogel ac effeithiol i weithredu’r newidiadau hynny, gobeithiwn y bydd y system un ffordd newydd a’r cyfyngiad cyflymder o 20mya yn gymorth i liniaru rhai o’r problemau y mae preswylwyr a’r sawl sydd yn teithio trwy Dwyn yn eu profi’n ddyddiol.”  

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Aelod Ward ar gyfer Ward y Dref: “Nid oeddem erioed yn meddwl y byddai’r rhwydwaith hwn o strydoedd hanesyddol yn gweld y lefel uchel hon o draffig. 

"Rydw i a’r Cynghorydd Andrew Barry wedi bod yn gweithio’n galed i geisio datrys problem tagfeydd traffig yn Ward y Dref yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Wedi nifer o gyfarfodydd â phreswylwyr ac ymgynghoriad cynhwysfawr rydym yn hynod o falch yn awr i gael y system un ffordd hon a’r cyfyngiadau cyflymder.

"Mae ffordd bell i fynd o hyd o ran parcio ond bydd y system hon yn gwneud y strydoedd yn fwy diogel; ni fydd cerbydau’n bacio yn ôl ar Riw’r Twyn ac ni fydd dadlau tanbaid am hawliau tramwyo. 

“Byddwn yn parhau i geisio canfod atebion dichonadwy ar gyfer problemau tagfeydd traffig y dyfodol.”

Yn ôl yr arolwg, roedd 65% o’r ymatebwyr yn gefnogol i gyflwyno system un ffordd ac 82% yn gefnogol i gyflwyno cyfyngiad cyflymder o 20mya yn yr ardal.

Bydd y system un ffordd fel a ganlyn:

  • I MEWN yng Nglanheulog / Stryd y Clawdd
  • ALLAN yn Stryd William
  • I MEWN yn Stryd Mari  
  • ALLAN yn Nheras Arfryn
  • Stryd Rees; Un ffordd ar Stryd Mari i Stryd William
  • Stryd Rees; Stryd William i Stryd Hampton yn ddwy ffordd

Bydd y newidiadau yn dod i rym o 00:01am, Ddydd Sul 21 Mawrth 2021.  

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni