Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ailwampio Canolfan a maes chwarae a’u hailagor yn yr hydref

  • Categorïau : Press Release
  • 04 Meh 2021
Canolfan delay

Oherwydd diffyg argaeledd deunyddiau adeiladu, cymhlethdodau niferus nas rhagwelwyd ar y safle a thagfa yn sgil y pandemig ni fydd ailddatblygiad £900,000 y Ganolfan a Pharc Cyfarthfa yn cael eu cwblhau nes yr hydref.

Mae problemau tebyg yn effeithio ar yr ardal chwarae a’r Pad Sblasio, a bydd eu hailagoriad hwythau hefyd yn cael ei oedi tan ddiwedd mis Medi a’r flwyddyn nesaf.

Caiff yr ailwampio ei ariannu fel rhan o raglen ‘Pyrth Darganfod’ Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Bydd yn arwain at greu gwagle cwrdd cymunedol yn y Ganolfan ynghyd â thoiledau newydd ac ystafelloedd newid yn y Pad Sblasio. Bydd arwyneb newydd i’r ardal chwarae a gwell mynediad i’r safle drwy adeiladu llwybrau, stepiau a phompren newydd.

Roedd rhaid i’r contractwyr, Willis Construction, balu sylfaeni’r Pad Sblasio a chael gwared ar yr offer chwarae i’w hasesu a’u hailosod gan gwmni arbenigol. Gan mai’r amser prysuraf o’r flwyddyn yw’r haf ar gyfer gosodwyr offer chwarae gwlyb, mae tagfeydd o ran archebion wedi arwain at oedi pellach.

“Rydym yn deall pa mor siomedig fydd preswylwyr – fel y mae’r Cyngor a’r Ymddiriedolaeth Hamdden – ond profwyd oedi ar bob un o’r elfennau ac ni ellir osgoi aros ar gau am yn hirach am resymau iechyd a diogelwch, fan leiaf,” dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Trawsnewid a Masnacheiddio, y Cynghorydd Geraint
Thomas.

“Mae Willis Construction yn gweithio’n galed i gwblhau’r contract mor gyflym ac effeithiol ag sy’n bosibl, ac mae ansawdd eu crefftwaith yn rhagorol – y mae’n arbennig o rwystredig wrth ystyried fod y tu fewn i’r Ganolfan wedi gorffen ac yn edrych yn anhygoel,” ychwanegodd.

“Ond mae diogelwch pobl, a phlant yn benodol, o’r pwysigrwydd pennaf. Gallwn eich sicrhau y bydd yr arhosiad yn werth chweil.”

Dywedodd Prif Weithredwr Lles@Merthyr Jane Sellwood: “Roeddem ni oll yn edrych ymlaen at ailagor yn ystod yr haf, ond mae sefyllfa’r pandemig wedi cael effaith groes ar lawer o brosiectau adeiladu dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Ar ôl iddynt gael eu cwblhau bydd y cyfleusterau hyn yn gwella’n Parc hyfryd hyd yn oed yn fwy a chyn gynted ag y gallwn groesawu’r cyhoedd yn ôl, mi fyddwn ni’n gwneud hynny. Yn y cyfamser, mae’r Ystafelloedd Te ar agor yn y Castell unwaith yn rhagor, felly gall ymwelwyr fwynhau lluniaeth yno.

“Mae gennym ni hefyd lawer o ddigwyddiadau cyffrous i deuluoedd edrych ymlaen atynt dros yr haf fel Beauty and The Beast a sinema gyrru drwodd. Mae ein hamgueddfa wedi ailagor ac anogwn bobl i ddilyn ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i gael y diweddaraf am yr holl ddigwyddiadau, gweithgareddau a gweithdai sy’n digwydd yno hefyd.”

Mae Prosiect Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn buddsoddi mwy na £6.6m yn yr 11 parc a safle treftadaeth yn y Cymoedd, a elwir yn Byrth Darganfod.

Wrth ailddatblygu’r Ganolfan bydd ei fynediad gwael yn cael ei wella, ynghyd â chynnydd mewn cyfleoedd am arlwyo digwyddiadau a phartïon plant, darparu hamperi picnic, ac arlwyo symudol i wasanaethau’r parc fel y llyn a Chae’r Pandy.

Bydd gan y toiledau newydd a’r ddarpariaeth newid, gyfleusterau i’r anabl gan gynnwys hoist ac offer eraill i helpu pobl anabl.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni