Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ffordd ar gau dros nos ar gyfer gwaith ail-wynebu

  • Categorïau : Press Release
  • 28 Maw 2022
Merthyr Tydfil CBC Logo

Bydd Stryd y Llys ar gau dros nos y penwythnos nesaf er mwyn cwblhau'r gwaith ar y groesfan i gerddwyr rhwng Maes Parcio'r Stryd Fawr a ‘siopau’r ffynnon’.

Bydd y cau dros dro yn digwydd rhwng cylchdro'r A4054 a chylchdro Tesco ddydd Sul Ebrill 3 o 6pm tan 6am fore Llun Ebrill 4, ar gyfer gwaith ail-wynebu.

Bydd arwyddion gwyriad amlwg, a gofynnwn i fodurwyr beidio parcio yn yr ardal waith ar yr adeg hon. Bydd mynediad ar gyfer eiddo a busnesau yn aros yr un peth.

Mae’r groesfan yn cael ei hariannu fel rhan o welliannau teithio llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer cerddwyr a seiclwyr yng nghanol y dref.

Mae’n bosib y bydd peth sŵn a hoffai’r Cyngor ddiolch i yrwyr a cherddwyr am eu cydweithrediad a’u hamynedd.

Os oes gennych gwestiwn neu bryderon mewn perthynas â’r gwaith neu eisiau copi o’r llwybr gwyriad  amgen cysylltwch gyda Georgie Davies ar 0330 0412 183. Neu gallwch e-bostio, georgie.davies@alungriffiths.co.uk

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni