Ar-lein, Mae'n arbed amser
Cau Strydoedd Ffyrdd Ysgol - Ysgol Gynradd Trelewis
- Categorïau : Press Release , Education , Schools
- 28 Awst 2020
O 7fed o Medi rydym yn gweithredu mesurau dros dro y tu allan i Ysgol Gynradd Trelewis er mwyn cynorthwyo a chynnal ymbellhau cymdeithasol ar gyfer disgyblion a staff ac sydd yn cyrraedd ac yn gadael yr ysgol yn ogystal ag annog plant a theuluoedd i gerdded i’r ysgol.
Drwy leihau’r nifer o gerbydau o amgylch mynedfa’r ysgol yn ystod yr amseroedd hyn rydym yn gobeithio y bydd y strydoedd yn fwy diogel i ddisgyblion, staff, rhieni/gwarchodwyr wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol.
Sut y bydd yn gweithio:
Ni fydd hawl gan gerbydau deithio ar hyd ffordd un-ffordd Teras Richards o’r gyffordd â Heol y Santes Fair yn ystod yr oriau cau canlynol:
Bore: 8.30yb – 9.30yb
Prynhawn: 2:30yp - 4:00yp
Bydd y ffordd gau dros dro yn cael ei nodi â chonau traffig a / neu fesurau dros dro eraill ac yn cael ei staffio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a’r ysgol.
Mae’r cynllun sydd wedi ei atodi'n dangos y cau sydd wedi ei uwcholeuo’n goch a hefyd yn dangos llwybr cerdded sydd wedi ei uwcholeuo’n las o feysydd parcio Parc Taf Bargoed.
Bydd angen eich cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn er mwyn ein galluogi i weithredu’r cau dros dro yn llwyddiannus. Bydd effeithioldeb y mesur yn cael ei fonitro er mwyn pennu ei lwyddiant.