Ar-lein, Mae'n arbed amser

CLUDIANT I YSGOLION – CWESTIYNAU CYFFREDIN

  • Categorïau : Education , Schools
  • 04 Medi 2020
School Bus 2

A fydd cludiant i ysgolion yn cael ei ddarparu pan fyddant yn ailagor ym mis Medi?

Mae’r Cyngor yn gweithio i ailgychwyn ei wasanaethau cludiant ysgol pwrpasol ar gyfer pob dysgwr, yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru (https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2020-08/canllawiau-gweithredol-gyfer-ysgolion-lleoliadau-dymor-hydref-fersiwn-2.pdf). Fodd bynnag, mae pandemig COVID-19 wedi’i gwneud hi’n anodd iawn trefnu cludiant ysgol, ac o ganlyniad efallai na fyddwn yn gallu darparu cludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer pob disgybl sydd ei angen mewn pryd ar gyfer dechrau tymor yr hydref.

Rydyn ni’n parhau i annog rhieni neu ofalwyr i fynd â’u plant i’r ysgol ar droed, ar feic, ar sgwter, ar olwynion o fath arall, neu fel arall mewn car preifat, er mwyn lleihau’r cyfyngiadau ar gapasiti. Rydym yn deall na fydd hyn yn bosibl i rai.

Er bod rhieni neu ofalwyr, o bosibl, yn pryderu am y risgiau o ddefnyddio cludiant ysgol yn ystod y pandemig COVID-19, dylent benderfynu a ydynt am wneud hynny, neu, os yw’n well ganddynt, dylent wneud eu trefniadau eu hunain i gludo’u plentyn i’r ysgol ac yn ôl.

 

A fydd llwybr cludiant ysgol fy mhlentyn yn gweithredu?

I’r mwyafrif o ddysgwyr sydd eisoes yn derbyn cludiant ysgol am ddim neu y mae trefniadau newydd wedi’u rhoi ar waith ar eu cyfer ym mis Medi, bydd pob llwybr cludiant ysgol yn parhau i weithredu yn yr un modd â chyn y pandemig COVID-19.

Bob haf, mae angen gwneud newidiadau i ddarparu ar gyfer dysgwyr newydd ar gludiant ysgol. Byddwch chi wedi cael llythyr os yw cludiant eich plentyn wedi newid. 

Mae Dysgwyr sy’n dechrau blwyddyn 7 a’r rhai sy’n mynychu Ysgolion Arbennig, Canolfannau Adnoddau Dysgu ac Unedau Cyfeirio Disgyblion, wedi cael cadarnhad ynghylch y trefniadau cludiant fydd ar waith. Bydd pob myfyriwr arall yn teithio yn ôl ei ddull cludo arferol (oni bai yr ysgrifennir atynt fel arall). Os nad ydych wedi derbyn gwybodaeth am gludiant eich plentyn, mae croeso ichi gysylltu â’r Adran Drafnidiaeth.

Ddim ond ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 y bydd y Cyngor yn rhoi tocynnau bws newydd i ddisgyblion Blwyddyn 7 yr ysgolion uwchradd. Cynghorir pob dysgwr arall sy’n teithio ar goetsys arferol i gadw’u tocyn bws a gyhoeddwyd yn flaenorol, i’w gyflwyno i’r gyrrwr. Os ydych wedi colli neu waredu’ch tocyn, cysylltwch â’r Adran Drafnidiaeth i gael un newydd.

Os na ddarparwyd cludiant eisoes neu os nad ydych wedi derbyn cadarnhad fod eich plentyn wedi cael sedd am ddim ar gludiant ysgol, rhaid i chi wneud eich ffordd eich hun i’r ysgol.


Faint o ddysgwyr fydd yn gallu teithio ym mhob tacsi/bws/coets?

Yn seiliedig ar ganllawiau Llywodraeth Cymru, byddwn ni’n defnyddio’r rhan fwyaf o’r capasiti ar gludiant pwrpasol. Ar fysiau cyhoeddus, bydd nifer y disgyblion a fydd yn gallu teithio ar unrhyw un adeg yn cael ei leihau oherwydd gofynion cadw pellter cymdeithasol.

 

Mae gan fy mhlentyn anghenion dysgu ychwanegol. Pa drefniadau cludiant fydd ar waith i Ysgolion Arbennig, Canolfannau Adnoddau Dysgu ac Unedau Cyfeirio Disgyblion?

Bydd yr holl dacsis a bysiau mini i Ysgolion Arbennig, Canolfannau Adnoddau Dysgu ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn parhau i weithredu fel y gwnaethant cyn y pandemig COVID-19. Os yw’ch plentyn yn newydd i gludiant anghenion dysgu ychwanegol, byddwch chi’n cael y manylion am eich cludiant rhwng y cartref a’r ysgol tua diwedd mis Awst.

Er nad oes angen cadw pellter cymdeithasol ar gludiant ysgol anghenion dysgu ychwanegol, rydyn ni’n gweithio gydag ysgolion a gweithredwyr i ddarparu mesurau diogelwch cymesur i leihau’r risg o drosglwyddo COVID-19 i sicrhau y gall dysgwyr fynychu’r ysgol neu’r coleg. Mae’r rhain yn cynnwys: -

  • bydd gyrwyr a chynorthwywyr teithwyr yn gwisgo gorchuddion wyneb neu fisorau a chyfarpar diogelu personol (PPE) fel sy’n briodol;
  • bydd cerbydau’n cael eu glanhau’n rheolaidd, gan gynnwys glanhau rheiliau llaw, dolenni drysau a’r holl arwynebau y gall teithwyr eu cyffwrdd gan ddefnyddio hylif gwrthfacterol;
  • bydd clytiau gwrthfacterol a hylif diheintio dwylo ar gael;
  • ar gerbydau mwy o faint (bysiau mini), bydd plant yn cael eu cyfarwyddo i eistedd yn yr un sedd (lle bo hynny’n bosibl) gyda’r un plentyn neu blant ar bob taith;
  • bydd ffenestri ar agor wrth symud i sicrhau bod y cerbyd wedi’i awyru’n dda.

 

A fydd angen i’m plentyn gadw pellter cymdeithasol ar gludiant ysgol?

Cludiant Ysgol neu Goleg Pwrpasol

Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn teithio ar fysiau, coetsys neu dacsis pwrpasol, sy’n cludo dysgwyr yn unig i’r ysgol neu’r coleg, ac yn ôl.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw hi bob amser yn bosibl cadw pellter cymdeithasol rhwng dysgwyr sy’n defnyddio cludiant ysgol neu goleg pwrpasol. Felly, ni fydd dysgwyr ar y rhan fwyaf o gludiant ysgol pwrpasol yn gallu cadw pellter cymdeithasol.

Bydd mesurau diogelwch cymesur ar waith i leihau’r risg o drosglwyddo COVID-19 ar gludiant ysgol pwrpasol i sicrhau y gall dysgwyr fynychu’r ysgol/lleoliad ar sail y canlynol:

  • mae’r risg gyffredinol i blant a phobl ifanc o COVID-19 yn isel;
  • bydd cludiant ysgol pwrpasol yn cludo’r un grŵp o ddysgwyr yn rheolaidd, a gall y dysgwyr hynny fod gyda’i gilydd yn yr ysgol hefyd;
  • bydd dysgwyr yn eistedd gyda’i gilydd mewn grwpiau blwyddyn lle bo hynny’n bosibl;
  • gall brodyr a chwiorydd eistedd gyda’i gilydd;
  • ni fydd seddi wyneb yn wyneb;
  • ni fydd unrhyw gyswllt rhwng dysgwyr a theithwyr eraill;
  • bydd ffenestri a fentiau to yn cael eu cadw ar agor lle bo hynny’n bosibl;
  • bydd cyswllt yn cael ei leihau gydag unigolion sy’n sâl;
  • dylai pob teithiwr, gan gynnwys y gyrwyr a chynorthwywyr teithwyr, olchi eu dwylo neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo cyn mynd ar gludiant ac wrth gyrraedd yr ysgol neu’r cartref;
  • os bydd achos posibl o COVID-19, neu achos wedi’i gadarnhau, yna bydd yn hawdd nodi pwy oedd yn teithio ar ba gerbyd, gan helpu i brofi, olrhain a diogelu;
  • bydd trefniadau glanhau a diheintio trwyadl rhwng, cyn neu ar ôl pob taith.

 Er mwyn helpu i leihau’r risg o drosglwyddo COVID-19, dylai dysgwyr:

 sicrhau cyn lleied o gyswllt â phosibl ag unigolion sy’n sâl;

  • golchi’u dwylo’n drylwyr ac yn amlach nag arfer;
  • sicrhau hylendid anadlol da trwy hyrwyddo’r dull “ei ddal, ei daflu ei ddifa”.

Wrth aros am y bws ysgol, cyfrifoldeb y rhiant neu ofalwr yw sicrhau bod ei blentyn yn ymddwyn yn gyfrifol wrth aros am y cerbyd. Mae hyn yn cynnwys cadw pellter cymdeithasol.

 

A fydd disgwyl i’m plentyn wisgo gorchudd wyneb?

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi, er ei fod yn debygol nad yw gorchuddion wyneb mawr o werth i blant o dan 11 oed, mae cyfraddau heintio a throsglwyddo yn cynyddu o 11 oed ymlaen, yn ystod y grŵp oedran ysgolion uwchradd, a gallai fod â rôl mewn lliniaru’r risg. Felly, y cyngor cyfredol gan Brif Swyddog Meddygol Cymru yw bod gorchuddion wyneb yn cael eu hargymell ar gyfer pob aelod o’r cyhoedd dros 11 oed mewn mannau dan do lle na ellir cadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys ysgolion a chludiant ysgol.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae CBS Merthyr Tudful yn argymell yn gryf bod pob dysgwr ysgol uwchradd a choleg sy’n teithio ar gludiant ysgol pwrpasol yn gwisgo gorchudd wyneb, gan fod y mwyafrif o gerbydau yn llawn, ac ni all dysgwyr eistedd gyda’i gilydd yn eu grwpiau blwyddyn. Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr eich cefnogaeth i atgyfnerthu’r neges hon gyda’ch plentyn.

Pan fydd dysgwyr yn gwisgo gorchudd wyneb, rhaid iddynt beidio â chyffwrdd â blaen eu gorchudd wyneb wrth ei ddefnyddio neu’i dynnu. Rhaid iddynt olchi eu dwylo yn syth wrth gyrraedd yr ysgol neu’r cartref, cael gwared â gorchuddion wyneb dros dro mewn bin â chlawr neu roi gorchuddion wyneb y gellir eu hailddefnyddio mewn bag plastig i’w golchi.

Bydd CBS Merthyr Tudful yn rhoi gorchuddion wyneb y gellir eu hailddefnyddio yn yr ysgol i bob dysgwr, ar eu diwrnod cyntaf yn ôl. Anogir rhieni i ddarparu gorchudd i’w plentyn ei wisgo ar y daith gyntaf i’r ysgol. Gall dysgwyr na allant wisgo mwgwd am resymau gwybyddol neu feddygol, siarad â’r ysgol a fydd yn cyhoeddi llythyr eithrio y gellir ei ddefnyddio ar gludiant.

Bydd gofyn i’r holl staff sy’n ymwneud â chludo disgyblion ar gludiant ysgol pwrpasol, e.e. gyrwyr a hebryngwyr, wisgo, lle’n bosibl, orchuddion wyneb ac unrhyw gyfarpar diogelu personol (PPE) priodol ychwanegol, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Pa ragofalon pellach y mae’n rhaid i’m plentyn eu cymryd wrth deithio?

Gofynnwn i rieni neu ofalwyr helpu i gyfleu i’w plant bwysigrwydd dilyn hylendid da a chadw pellter cymdeithasol, gan y bydd hyn yn chwarae rhan allweddol wrth gadw pawb yn ddiogel.

Mae hyn yn golygu cymryd y rhagofalon canlynol:

  • peidiwch â theithio os oes gan eich plentyn neu aelod o’r aelwyd unrhyw un neu ragor o’r pedwar symptom COVID-19 a nodir (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli blas neu arogl);
  • peidiwch â theithio os yw’n ofynnol i unrhyw un yn yr aelwyd hunanynysu o ganlyniad i gyswllt ag achos o dan y cynllun Profi, Olrhain, Diogelu, neu mewn cwarantin ar ôl dychwelyd o wlad a nodir gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad;
  • golchwch eich dwylo am o leiaf 20 eiliad neu ddiheintio’ch dwylo cyn gadael y tŷ;
  • defnyddiwch yr hylif diheintio dwylo a ddarperir cyn mynd ar y cerbyd;
  • osgowch gyswllt corfforol ag eraill;
  • bydd y ffenestri ar agor at ddibenion awyru lle bo hynny’n bosibl;
  • wynebwch i ffwrdd oddi wrth bobl eraill wrth ddefnyddio cludiant ysgol;
  • ceisiwch leihau nifer yr arwynebau yr ydych yn eu cyffwrdd, ac yn benodol osgoi cyffwrdd ag arwynebau fel rheiliau llaw a silffoedd ffenestri;
  • peidiwch â chyffwrdd â’ch wyneb;
  • peidiwch â bwyta nac yfed wrth ddefnyddio cludiant;
  • golchwch eich dwylo am o leiaf 20 eiliad neu ddiheintio’ch dwylo cyn gadael yr ysgol.

Sylwch y gallai gwrthod cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch, hylendid da a chadw pellter cymdeithasol, lle bo hynny’n briodol, beryglu lle eich plentyn ar gludiant ysgol. Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr eich cefnogaeth i atgyfnerthu’r neges hon gyda’ch plentyn.

 

Sut bydd eich plentyn yn gwybod ble i eistedd?

Bydd dysgwyr yn cael eu casglu gan gludiant ysgol pwrpasol ar sail y pellter i’r ysgol neu oddi yno. Bydd y rhai sy’n byw pellaf yn mynd yn gyntaf ac yn eistedd yn y cefn, tra bydd y rhai sy’n byw agosaf yn mynd olaf ac yn eistedd yn y blaen.

Bydd dysgwyr hefyd yn cael eu hannog i ddefnyddio hylif diheintio dwylo wrth fynd ar y cerbyd lle caiff ei ddarparu. Disgwylir y bydd dysgwyr wedi golchi’u dwylo cyn mynd ar y cerbyd ac ar ôl cyrraedd yr ysgol.

Efallai y bydd gofyn i ddysgwyr sy’n teithio ar goetsys neu gerbydau mwy ddefnyddio’r un sedd bob dydd.

Bydd gofyn i ddysgwyr sy’n defnyddio tacsis neu fysiau mini rhwng y cartref a’r ysgol eistedd yn yr un sedd bob dydd.

 

Sut byddwch chi’n sicrhau nad yw gwasanaethau’n orlawn?

Dim ond teithwyr a enwyd ac a gymeradwywyd ymlaen llaw i deithio, fydd yn cael defnyddio cludiant. Bydd gan yrwyr restrau o ddysgwyr a fydd yn cael eu dyrannu i’w cerbyd bob dydd. Bydd y rhai nad ydyn nhw’n gymwys i deithio ddim yn cael mynd ar y cerbyd.

 

Sut byddwn ni’n trefnu dysgwyr sy’n aros wrth safleoedd bysiau?

Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb wrth aros i gludiant gyrraedd. Mewn safle bws, dylid dilyn y dull arferol a chynnal pellter cymdeithasol o 2 fetr.

Fodd bynnag, mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn argymell bod pobl yn gwisgo gorchuddion wyneb.

Ni fydd yr Awdurdod Lleol (na’r darparwyr trafnidiaeth ychwaith) yn gallu dynodi na monitro safleoedd bysiau.

 

A fydd cyflenwyr trafnidiaeth yn dilyn canllawiau iechyd a diogelwch?

Rydyn ni’n gofyn i gyflenwyr trafnidiaeth ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru sef https://llyw.cymru/ailddechrau-trafnidiaeth-gyhoeddus-canllawiau-i-weithredwyr. Mae’r cyfarwyddyd hwn yn cynnwys camau gweithredu megis diheintio rheolaidd, glanhau cerbydau’n drylwyr a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE).

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni