Ar-lein, Mae'n arbed amser

Ysgolion i ailagor i bob disgybl o fis Medi

  • Categorïau : Press Release , Education , Schools
  • 09 Gor 2020
MerthyrExamResults.jpg

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) heddiw wedi croesawu cynlluniau gan y Gweinidog Addysg ganiatáu ysgolion sy’n gallu gwneud hynny i ailagor o wythnos gyntaf fis Medi, gyda pob ysgol i ailagor o 14 Medi.

Mae cynllunio a pharatoi gofalus yn cael ei gynnal rhwng CBSMT ac ysgolion yn yr ardal i adolygu asesiadau risg, prosesau a systemau i sicrhau bod ysgolion yn gallu croesawu disgyblion yn ddiogel yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Mae’n bosib y bydd rhaid blaenoriaethu rhai grwpiau penodol o ddysgwyr, megis Blwyddyn 7, 11 Unedau Arbennig Cynradd a Blwyddyn 6. Bydd rhieni’n derbyn mwy o wybodaeth penodol gan eu hysgol a’r Awdurdod Lleol cyn gynted ag y bydd ar gael.

O 14 Medi, bydd presenoldeb ysgol yn orfodol. Gofynnir i rieni gysylltu gyda’r ysgol i drafod os nad ydi disgybl yn gallu mynychu.

Bydd gan bob safle ysgol heriau y bydd angen eu datrys, gan gynnwys lefelau staffio. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i gadarnhau trefniadau trafnidiaeth ysgol. Bydd CBSMT yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion i gyd i oresgyn materion o’r fath.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi £29m yn hwb i gefnogi dysgwyr i leihau effeithiau’r argyfwng presennol ar addysg. Bydd 600 o athrawon ychwanegol a 300 o gynorthwywyr dysgu yn cael eu recriwtio ar draws Cymru trwy gydol y flwyddyn nesaf, yn targedu cefnogaeth ychwanegol i Flynyddoedd 11, 12, ac 13, ynghyd â disgyblion difreintiedig a bregus o bob oed. Bydd CBSMT yn gweithio gydag ysgolion i gael eglurder o ran y manylion.

Dywedodd Lisa Mytton, Aelod Cabinet dros Ddysgu: “Dros y misoedd diwethaf, bydd dysgwyr wedi teimlo’n bryderus am golli ar addysg a pheidio gallu gweld eu ffrindiau. Croesawaf gynllun y Gweinidog i alluogi ysgolion i groesawu disgyblion yn ôl ym mis Medi yn unol â’r holl fesurau diogelwch a chanllawiau Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n bosib iawn bod staff mewn ysgolion, dysgwyr a’u teuluoedd dan straen emosiynol, ariannol a meddyliol yn ystod y cyfnod tu hwnt o anodd yma. Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn parhau i weithio’n agos ag ysgolion a safleoedd i ystyried sut orau i gefnogi anghenion llesiant ein holl ddisgyblion yn ystod y cyfnod yma.

“Mae’r argyfwng wedi amharu’n ddifrifol ar addysg disgyblion. Bydd addewid Llywodraeth Cymru o £29m yn helpu i recriwtio staff ychwanegol i gefnogi’r cyfnod adfer, lleihau’r effeithiau ar ddisgyblion, a pharhau â’r gwaith cyfredol i godi safonau.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni