Ar-lein, Mae'n arbed amser
Ystafell Synhwyraidd wedi'i agor gan Syr Stanley Thomas
- Categorïau : Press Release , Education , Schools
- 25 Hyd 2019
Ar 24 o Hydref 2019, agorodd Syr Stanley Thomas Ystafell Synwyraidd Newydd yn Nhŷ Dysgu Dowlais; uned sy'n anelu at gefnogi disgyblion sydd â phroblemau ymddygiadol heriol.
Cyfranodd Syr Stanley £10,000 ym mis Hydref 2018 i sefydlu’r Ystafell Synhwyraidd ac i brynu deunyddiau celf, gwyddoniaeth, mathemateg a TG. Dywedodd Syr Stanley fod yr arian yn cael ei gyflwyno gan yr Ymddiriedolaeth elusennol a sefydlwyd gan ei dad, Syr Stanley yr Hynaf, i roi yn ôl i'r gymuned - yn enwedig plant a phobl mewn angen; “Dywedodd fy nhad bob amser ei fod am i blant Merthyr Tudful gael budd ar ôl iddo farw, ac ei fod am i'r tri phlentyn ofalu am yr Ymddiriedolaeth i sicrhau eu bod yn gwneud hynny.
Ganed Syr Stanley yr Hynaf yn yr hen Pelican Inn yn Nowlais a byddai wedi bod wrth ei fodd i wybod bod arian gan yr Ymddiriedolaeth yn cael ei fuddsoddi yn Nhŷ Dysgu Dowlais, nad oedd yn bell o'i le geni.
Ychwanegodd Syr Stanley: "Y dref hon a faethodd fy nheulu ac rydym am roi yn ôl iddo, ac rwyf wrth fy modd bod cyfleuster ychwanegol i gael ym Merthyr Tudful.. "
Dywedodd Gail Meade, Pennaeth Ty Dysgu: “Mae’r Ystafell Synhwyraidd yn ychwanegiad anhygoel i’n darpariaeth as mae wedi bod yn gwbl amhrisiadwy wrth helu ein plant a gwella eu lles. Ni allwn gredu ein lwc… mae Syr Stanley yn hael iawn!”
Dechreuodd gwaith ar yr ystafell y blwyddyn academaidd llynedd, ac mae wedi cael ei defnyddio gan y ddisgyblion ers Mid Medi.