Ar-lein, Mae'n arbed amser
Diweddariad gwasanaeth gan Y Cynghorydd David Hughes, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth
- Categorïau : Press Release
- 01 Chw 2021
Diweddariad gwasanaeth gan Y Cynghorydd David Hughes, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth:
“O 5 Ebrill 2021, ni fydd gwydr a chardfwrdd yn cael eu casglu bellach mewn un cynhwysydd, bydd angen eu gwahanu.
“Gall gwydr sydd wedi torri amharu ar ansawdd y cardfwrdd a fydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer ei ailgylchu. Gall hefyd greu problem iechyd a diogelwch i’n timau pan fyddant yn gwahanu deunyddiau ar ochr y cwrb.
“Mae gan nifer fawr o breswylwyr gynhwysydd ychwanegol yn barod a gellir ei ddefnyddio i wahanu gwydr a chardfwrdd. Gall unrhyw un nad oes ganddo un lenwi ein ffurflen ar-lein neu gysylltu â ni dros y ffôn i ofyn am un.
“Bydd cynhwysyddion yn cael eu darparu i aelwydydd yn ystod mis Mawrth, yn barod ar gyfer y newid i’r gwasanaeth ym mis Ebrill.”