Ar-lein, Mae'n arbed amser
Arwyddion ar gyfer adarwyr ac i ddiogelu adar
- Categorïau : Press Release
- 03 Rhag 2019
Mae arwyddion wedi cael eu gosod wrth Lyn Parc Cyfarthfa i annog pobl sydd am fwydo’r hwyaid, y gwyddau a’r elyrch i ddefnyddio ardal ddynodedig.
Cafodd yr arwyddion eu gosod yn eu lle gan y Cyngor, yn dilyn nifer o ddigwyddiadau diweddar le y cafodd adar y gwlypdir eu dal mewn lleiniau pysgota wrth edrych am fwyd.
“Cafwyd nifer o broblemau wedi i bobl a oedd yn ymweld â’r parc daflu bara i ardaloedd wrth ymyl lleiniau pysgota,” dywedodd Gerald Lewis, Arweinydd Tîm Parciau'r Cyngor Bwrdeistref Sirol. “Mae hyn nid yn unig yn tarfu ar y pysgota ond hefyd yn cynyddu’r risg o adar yn cael eu dal yn y lleiniau ac yn waeth na hynny, yn cael eu dal.
“Mae Cymdeithas Bysgota Merthyr yn gwneud llawer iawn o waith cadwriaethol yn y llyn a’r gamlas ac mae’n drueni mawr fod y digwyddiadau hyn yn digwydd gan eu bod yn amlwg yn tristau o’u hachos.”
Gofynnir i’r sawl sydd am fwydo’r adar i wneud hynny ar ochr draw’r llyn, ddigon pell o’r leiniau pysgota.
“Hon yw’r ardal lle y mae pafin a lle y bydd ceufadau’n cael eu lansio’n achlysurol pan fyddant ar y llyn,” ychwanegodd Gerald. “Rydym wedi gosod arwyddion dwyieithog a gobeithio y bydd hyn yn caniatáu i adar y gwlypdir allu fwydo’n ddiogel.”