Ar-lein, Mae'n arbed amser

Clwb Cymdeithasol i gau oherwydd ‘diffyg rheolaeth’ y cwsmeriaid yn ystod y pandemig

  • Categorïau : Press Release
  • 02 Rhag 2020
Labour Club

Mae clwb cymdeithasol ym Merthyr Tudful wedi cael ei orfodi i gau am bythefnos ar ôl i swyddogion Tîm Gorfodi ar y Cyd Cwm Taf, yn cynnwys yr awdurdod lleol, Heddlu De Cymru a Swyddogion Gorfodi Covid, ‘fethu â chredu diffyg rheolaeth’ y cwsmeriaid a oedd â’u breichiau o amgylch ei gilydd ac yn benthyg mygydau pobl eraill i ddod i mewn i’r safle.

Mae Tŷ Cwrt Clwb Llafur a Stiwt Merthyr wedi cael ei gau lawr o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws)(Cymru)2020 am fethu â dilyn ‘mesurau rhesymol i isafu’r risg o amlygiad i goronafeirws neu ledaeniad coronafeirws gan y sawl sydd wedi bod ar y safle’.

Cafodd yr hysbysiad cau ei gyflwyno gan swyddog gorfodi Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Aneurin Hughes, i’r perchennog Robert Healy, am fynd yn groes i’r gofynion yn y moddau canlynol:

  • Nid oedd yr Asesiad Risg ar gyfer yr adeilad ar gael i’r staff, cwsmeriaid na swyddogion gorfodi ei weld; ac nid oedd y Monitor Covid Dynodedig yn ymwybodol o’i swyddogaeth, ac felly nid oedd yn gwybod am ei ddyletswyddau na’i gyfrifoldebau.
  • Dywedodd y staff fod gwirio ID yn cael ei gyflawni, ond gwelodd swyddogion bobl yn mynd i mewn i’r adeilad heb gael eu gwirio o gwbl; doedd dim system archebu ymlaen llaw nac amseroedd dynodedig yn cael eu dynodi – roedd pob cwsmer yn cerdded i mewn yn rhydd ac nid oedd yr isafswm gofynnol o bobl yno
  • Roedd cwsmeriaid yn dod i mewn i’r safle ‘ysgwydd wrth ysgwydd, â’i breichiau o amgylch ei gilydd’, ac roedd y gerddoriaeth gefndir mor uchel fel na allai sgwrs gyffredin ddigwydd heb i bobl godi eu lleisiau. Roedd cwsmeriaid yn ‘gweiddi ac yn frochus tu hwnt’, ac roedden nhw’n rhydd i gerdded o gwmpas y safle yn hytrach nac eistedd wrth eu byrddau yn ôl rhagnodiadau’r rheoliadau. Nid oedd unrhyw dystiolaeth fod staff yn rheoli eu hymddygiad.
  • Nid oedd y toiledau na’r mannau cyffwrdd wedi cael eu glanhau’n ‘ddigonol o gwbl’ ac nid oedd gan yr aelod o staff a oedd yn glanhau’r toiledau y cyfarpar diogelu personol priodol – dim ffedog na menig untro – ac yna parhaodd â’r gwasanaeth bar neu fwrdd mewn dillad heb eu diogelu.
  • Doedd dim rheolaeth o gwbl yn yr ardal awyr agored / ysmygu, nac o’r ciwio. Roedd cwsmeriaid yn ysmygu y tu allan heb gadw pellter cymdeithasol a heb unrhyw fonitro. Nid oedd cwsmeriaid yn gwisgo mwgwd wrth ymadael â’r adeilad am sigarét ac roedden nhw’n gofyn am fenthyg gorchudd wyneb oddi wrth gwsmeriaid eraill i fynd yn ôl i mewn i’r adeilad, gan amlygu eu hunain i risg difrifol o uchel o groes-halogi.

“Mae’r ffaith fod aelod o’r staff wedi cael prawf cadarnhaol o Covid-19 yn ddiweddar, a’r fath anhrefn a’r diffyg o unrhyw fath o reolaeth yn destament i gyflwyno’r hysbysiad hwn,” dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Diogelu ac Amddiffyn, Paul Lewis.

“Nid oedd y swyddogion a aeth i’r safle’n gallu credu’r diffyg rheolaeth, y lefelau staffio isel a’r diffyg ymwybyddiaeth llwyr o ran y staff a’r cwsmeriaid. Roedd cwsmeriaid yn cael ymddwyn fel petai pethau’n normal. Roedd rhyddid ganddynt i gerdded o ystafell i ystafell, gweiddi ar ei gilydd ar draws yr ystafell ac yn gyffredinol ymddwyn fel pe na bai unrhyw gyfyngiadau mewn grym.”

Dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas: “Gwnaeth y safle ganiatáu’r ymddygiad hwn ac yn amlwg nid oedd yno ddigon o bolisïau na gweithdrefnau mewn lle i reoli’r safle reoledig hon yn unol â rheoliadau coronafeirws Llywodraeth Cymru a’i chanllawiau rhagnodedig.

“Dymuna’r Cyngor hysbysu’r holl safleoedd trwyddedig ledled y fwrdeistref sirol ein bod ni’n cymryd y rheoliadau yn gwbl o ddifri ynghyd ag unrhyw dorri arnynt. Mae dyletswydd arnon ni i gyd i atal lledaeniad coronafeirws a rhaid i ddeiliaid trwyddedau lynu wrth y rheolau.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni