Ar-lein, Mae'n arbed amser

Newidiadau Stagecoach o Fai 29

  • Categorïau : Press Release
  • 16 Mai 2022
stagecoach

Mae Stagecoach wedi hysbysu'r Cyngor y bydd rhai o’r gwasanaethau i ac o Gyfnewidfa Fysiau Merthyr Tudful yn newid yn sylweddol o Fai 29 oherwydd prinder staff.

Mae nifer o fysiau wedi eu diddymu, gyda gwasanaethau eraill yn gwneud y llwybr, ond fe fydd lleihad i’r gwasanaeth. Mae Stagecoach yn dweud na ellir osgoi hyn oherwydd y prinder staff yn arbennig ym Merthyr Tudful. Mae’r cwmni yn chwilio ac yn recriwtio gyrwyr newydd, a byddant yn edrych i ail gyflwyno gwasanaeth os yw'r sefyllfa yn gwella.

Mae’r newidiadau ar draws Merthyr Tudful a Bargoed yn cynnwys:

  • Ni fydd Gwasanaeth X4 
  • Bydd Gwasanaeth T4 yn gwneud pob siwrnai X4 rhwng Merthyr Tudful a Chaerdydd.
  • Bydd Gwasanaeth 78 yn gwneud pob siwrnai X4 rhwng Merthyr Tudful a’r Fenni.
  • Bydd Gwasanaethau  78, 79 ac 81 yn rhedeg bob 15 munud rhwng Merthyr Tudful a Throedyrhiw a phob 30 munud rhwng Merthyr Tudful a Threharris er mwyn gwella'r gwasanaethau.
  • Ni fydd Gwasanaeth 2 Merthyr Tudful – Bargoed yn rhedeg bellach gyda Gwasanaethau 1 a 3 yn gwneud llwybr Gwasanaeth 2.
  • Mae amserlenni Gwasanaethau 23, 27, 33, 35 & 38 wedi ei newid er mwyn gwella'r gwasanaeth.
  • Bydd Gwasanaeth 25 yn mynd bob awr. 
  • Ni fydd Gwasanaethau 78A a 35A bellach.
  • Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth 35A yn mynd cyn belled â Thai'r Twynau bob dwy awr, ond ni fydd y gwasanaeth yma ar lwybr Pant o hyn ymlaen.
  • Bydd Gwasanaeth 25 Cefn -Trefechan yn rhedeg bob awr yn hytrach na bob hanner awr.

Gellir gweld pob amserlen yma: https://t.co/GZpYh0sWyq

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni