Ar-lein, Mae'n arbed amser

Peidiwch â gyrru i’n parciau, medd y Cyngor

  • Categorïau : Press Release
  • 07 Maw 2021
Parks appeal

Mae’r Cyngor yn apelio ar breswylwyr i beidio â theithio i’n parciau yn ystod y cyfnod clo presennol yn dilyn adroddiadau fod nifer fawr o gerbydau wrth fynedfeydd a phobl ddim yn cadw at bellter cymdeithasol.

Bydd gwarchodwyr diogelwch yn patrolio Parc Thomastown ar ôl i breswylwyr sy’n byw gerllaw gwyno wrthym ni fod ‘o leiaf 30 o geir’ wedi eu parcio y tu allan ar Heol y Frenhines a ‘nifer enfawr’ o bobl – teuluoedd gan fwyaf – y tu fewn i’r parc yn yr ardal chwarae.

“Mae hyn yn rhwystredig iawn i ni bobl leol sy’n dilyn rheolau’r cyfnod clo, sy’n mynd am dro o stepen ein drws, sydd am fwynhau prydferthwch ein parc lleol heb boeni fod llwyth o bobl wedi gyrru yno yn ystod pandemig,” dywedodd y preswyliwr mewn neges.

Mae’r gŵyn yn dilyn cais Wellbeing@Merthyr yn gofyn i bobl beidio â gyrru i Barc Cyfarthfa ar ôl adroddiadau tebyg am gerbydau wedi eu parcio a niferoedd mawr o bobl yn ymgasglu yno.

“Deallwn fod pobl am fwynhau ein parciau prydferth, ond o dan y rheoliadau ni ddylai unrhyw un yrru am ymarfer corff,” dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas.

“Nid yw hyn yn deg ar breswylwyr lleol sydd o fewn eu hawliau i gerdded o’u cartrefi i Barciau Thomastown a Chyfarthfa,” ychwanegodd. “Bydd rhagor o warchodwyr yno dros y penwythnos yn y ddau barc nes y bydd y cyfyngiadau yn llacio.

“Ymddiheurwn am orfod atgoffa pobl i beidio â theithio, ond nes bod cyfraddau heintio coronafeirws o dan reolaeth yn iawn, dyma beth sy’n rhaid i ni ei wneud.”

Yn ôl Lefel rhybudd 4 Llywodraeth Cymru, mae rhaid i’ch ymarfer corff ddechrau a gorffen yn eich cartref a ni ddylech gyrru i gymryd ymarfer corff. I ddysgu mwy, ewch i: https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-4-cwestiynau-cyffredin#section-58322

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni