Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gŵyl Neidio, Reidio a Mwy yn dechrau'r
- Categorïau : Press Release
- 13 Meh 2019
Bydd pedwaredd Ŵyl Neidio, Reidio a Mwy y Fwrdeistref Sirol yn dechrau'r Dydd Sul hwn (16 Mehefin) gyda Cherddedathon Merthyr Tudful – mae’n gyfle i chi ganfod dau o’n llwybrau gorau a chodi arian yn ogystal at elusen.
Mae’r cerddedathon yn cynnwys tri llwybr gwahanol: gadael Canolfan Hamdden Merthyr Tudful am 10am ar gyfer yr opsiynau 10 a 14 milltir ar hyd Llwybrau Taf a Trevithick neu gallwch fynd i Ganolfan Gymunedol Aber-fan ac Ynys Owen am 1.30pm ar gyfer yr opsiwn pedair milltir.
Mae’r tâl yn £10 ar gyfer oedolion ac yn £4 ar gyfer plant. Bydd gofyn cofrestru ar
www.etchrock.com/challenge/buy-ticket/merthyr-tydfil-walkathon-2019
Mae’r Ŵyl Neidio, Reidio a Mwy a fydd yn cael ei chynnal hyd 29 Mehefin yn fenter ar y cyd rhwng y Cyngor Bwrdeistref Sirol, Merthyr Tudful Heini a’r Fforwm Neidio, Reidio a Mwy a ffurfiwyd yn sgil llwyddiant y digwyddiad cyntaf yn 2017.
Bydd yr ŵyl yn cynnig cyfle i bobl brofi gweithgareddau newydd fel sesiynau rhedeg â bygi a ‘Plogio’ neu ‘redeg eco.’ Bydd cyfle hefyd iddynt gyfranogi mewn campau mwy confensiynol fel cerdded, rhedeg a seiclo gyda grwpiau sefydledig.
Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys Cerdded Norwyeg, Parkrun Merthyr Tudful, teithiau beic tywys, teithiau cerdded natur a mynyddig, teithiau cerdded hanes yng nghanol y dref a ras 2k a 5k gymdeithasol ar gyfer y teulu.
Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi dros yr wythnosau nesaf felly cadwch olwg ar y cyfryngau cymdeithasol.