Ar-lein, Mae'n arbed amser

Haf o Hwyl yn ei ol gan gynnig gweithgareddau cyffrous AM DDIM

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Gor 2022
1

Mae “Haf o Hwyl” yn ei ôl ar draws Cymru eleni, a bydd ystod o ddarparwyr yn cynnig cyfleodd i blant a phobl ifanc ym Merthyr Tudful rhwng 0 a 25 oed gyda gweithgareddau hwyl AM DDIM gyda’r bwriad o gefnogi lles plant.

Dros yr haf, bydd darparwyr ar draws y Fwrdeistref Sirol yn cynnal gweithgareddau diwylliannol, chwarae a chwaraeon AM DDIM er mwyn helpu teuluoedd i ymdopi gyda’r argyfwng costau byw cenedlaethol. Bydd cyfle iddynt wella ei hyder, datblygu sgiliau bywyd hanfodol a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a gwneud ffrindiau mewn amgylchedd diogel. Bydd hyn yn cefnogi lles plant a phobl ifanc.

Bydd ystod y ddarpariaeth ar draws y gymuned a bydd y gweithgareddau yn hygyrch i grwpiau sydd ddim fel arfer yn cyfranogi ac wedi ei dargedu ar deuluoedd sydd eisoes yn derbyn cefnogaeth. Bydd hyn yn golygu bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael haf bythgofiadwy.

Yn dilyn “Haf o Hwyl” y llynedd a “Gaeaf o Les”, cyllidodd Llywodraeth Cymru £7m arall, gyda £107,771 yn cael ei roi i’r Awdurdod Lleol.

Dwedodd y Pencampwr Plant, y Cyng. Lisa Mytton hyn am y digwyddiad, “Rydw I’n hapus iawn i gefnogi ein rhaglen weithgareddau “Haf o Hwyl”, mae’n gyfle gwych i blant a phobl ifanc o 0-25 oed brofi gweithdai a digwyddiadau cyffrous. Mae’r ffocws ar gefnogi teuluoedd wrth fyw trwy’r pryder cynyddol am argyfwng costau byw. Bydd y gweithgareddau rhad ac am ddim hyn yn helpu iechyd a lles ein pobl ifanc sy’n rhywbeth mor bwysig i ni fel cyngor i’w hyrwyddo a chefnogi. Hoffwn ddiolch hefyd i Lywodraeth Cymru am fuddsoddi a lawnsio’r fenter.

Am fwy o wybodaeth am yr amserlen o weithgareddau, a sut i archebu lle, ewch at: https://www.merthyr.gov.uk/hafohwyl?lang=cy-GB&

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni