Ar-lein, Mae'n arbed amser

Dyfarniad o dros £½m i ardal dalgylch Taf Bargoed ar gyfer prosiect adfer

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Medi 2019
Parc Taf Bargoed

Bydd prosiect gwerth hanner miliwn o bunnoedd i ddiogelu llynnoedd yn un o fannau gwyrdd mwyaf darluniadol Merthyr Tudful hefyd yn gweld tirfeddianwyr lleol, gwrengod, preswylwyr ac ysgolion yn ymgymryd â’r rôl o fod yn ‘warcheidwaid cymunedol’.

Bydd 140 hectar Parc Taf Bargoed yn destun rhaglen lanhau yn dilyn grant o £417,000 oddi wrth Lywodraeth Cymru wedi’i ariannu’n gyfatebol â £60,000 oddi wrth y Cyngor Bwrdeistref Sirol a £30,000 o Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae gan y parc, a grëwyd ar ôl adfer tri phwll glo segur, 3.6 hectar o lynnoedd sy’n denu amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Ond ceir problemau ynghylch mwynau o’i orffennol diwydiannol sy’n achosi llygredd, llaid a chroniad o waddod yn ogystal ag ymddygiad gwrth gymdeithasol fel tipio anghyfreithlon.

Heddiw (11 Medi, 2019), y Cyngor argymell derbyn yr arian oddi wrth Raglen Datblygu Gwledig – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020 Cynllun Rheoli Cynaliadwy, a gaiff ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop dros Ddatblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, tuag at gyfanswm costau’r prosiect sef £507,287.

Gwnaeth y Cabinet hefyd gymeradwyo penodiad at swydd am dair blynedd i weithredu a rheoli ‘Prosiect Adfer Dalgylch Taf Bargoed’ gan ymgysylltu â’r gymuned a chyflawni gweithgareddau cyfathrebu.

Dywedwyd wrth y Cynghorwyr fod ardal dalgylch yr afon wedi bod yn ‘rhan bwysig o fywydau’r bobl y mae wedi eu gwasanaethu ers cenhedloedd’. Dywedodd adroddiad yr Adran Adfer Gymunedol mai cymunedau Trelewis, Treharris a Bedlinog ym Merthyr Tudful oedd â’r ‘berthynas agosaf’ at yr afon, er ei fod yn cwmpasu wardiau eraill a bwrdeistref sirol ehangach Caerffili.

Bydd y gwaith yn cynnwys darparu ffensio newydd, plannu coed, adfer glannau’r afon a diogelu rhag erydiad, ac ailgysylltu cynefinoedd i adeiladu prosesau gwydn i mewn i fioamrywiaeth ac ecosystemau’r ardal.

“Bydd y prosiect hefyd yn ymgysylltu ag aelodau’r gymuned leol, ynghyd â busnesau a sefydliadau i bennu eu hanghenion a’u safbwyntiau am y prosiect, yn ogystal â darparu cyfleoedd gwirfoddoli yn cwmpasu gweithgareddau adfer afon,” ychwanegodd yr adroddiad.

“Fe fydd hefyd yn annog teithiau cerdded o gwmpas ardal y dalgylch gyda’r gobaith y bydd hynny ailgysylltu pobl â’r afon a’r parc a’i hanes cymdeithasol gan sylweddoli manteision iechyd a llesiant o fod yn yr awyr agored.

“Yn y cyfamser, bydd y gwarcheidwaid cymunedol – a fydd yn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw ar raddfa fach – yn ymddwyn fel mentoriaid cymunedol i bobl iau sy’n ymgysylltiedig â rhan o’r elfen ysgolion/ coleg o’r prosiect.”

Mae’r prosiect yn gynllun cydweithredol sydd hefyd yn cynnwys cyfranogiad Cyfoeth Naturiol Cymru, Afonydd De Cymru, Cyfeillion Parc Taf Bargoed, Partneriaeth Bioamrywiaeth Merthyr Tudful, Merthyr (De Cymru) Cyf, Cymdeithas Gwrengod Gelligaer a Merthyr, Clwb Canŵ Aberfan, Cymdeithas Pysgota Taf Bargoed, Ymddiriedolaeth Datblygu Taf Bargoed, Prifysgol Caerdydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd, y Cynghorydd Geraint Thomas: “Rydym wrth ein bodd o dderbyn y cynnig hwn o gefnogaeth anferthol oddi wrth Gynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a gafodd ei gynllunio i ddiwallu’r heriau a wynebir gan ardaloedd gwledig a datgloi eu potensial.

“Prosiect cymunedol yw hwn a fydd yn gweithio i ymgysylltu tirfeddianwyr, gwrengod, preswylwyr lleol ac ysgolion lleol â dalgylch afon a dysgu am bwysigrwydd afonydd iach a’r fioamrywiaeth oddi fewn iddynt.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni