Ar-lein, Mae'n arbed amser
Siop Prydau Parod wedi cael dirwy o £2780 am dorri amodau hylendid bwyd
- Categorïau : Press Release
- 14 Mai 2019

Gwelwyd bod Ocean Fish Bar ym Mhenydarren, Merthyr Tudful, mewn cyflwr budr gyda bwydydd wedi llwydo yn y gegin.
Daeth problemau i’r amlwg yn syth yn y busnes bwyd pan wnaeth Swyddog Iechyd Amgylcheddol CBSMT cynnal archwiliad di-rybudd yn Ocean Fish Bar, Penydarren, Merthyr Tudful ar 24 Mai 2018. Roedd yr adeilad yn fudr drwyddo draw, roedd bwyd wedi llwydo yn yr oergelloedd a daethpwyd o hyd i fwydydd a oedd heibio eu dyddiad defnyddio. O ganlyniad i’r archwiliad, rhoddwyd Sgôr Hylendid Bwyd o 0 sy’n golygu bod Angen Gwelliant Ar Unwaith.
Ceisiodd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd weithio gyda’r perchennog, Mr Ramandeep Boughan, ond roedd ailymweliadau pellach i sicrhau cydymffurfiad yn dangos ei fod yn anwybyddu'r Cyngor dro ar ôl tro.
Methodd Mr Boughan â bod yn bresennol yn y llys ac o ganlyniad cafodd ei arestio ar warant a gafodd ei gyflwyno gan Lys Ynadon Merthyr Tudful ym mis Chwefror 2019; ymddangosodd o flaen y Llys dan fechnïaeth ar 30 Ebrill 2019.
Plediodd yn euog i bob un o’r deuddeg trosedd a gyflawnwyd o dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 a Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 a chafodd y ffeithiau eu hamlinellu i’r Llys, gan gynnwys ffotograffau a dynnwyd ar leoliad y busnes bwyd. Cafodd Mr Boughan ddirwy o £1800, gyda chostau o £900 i’r Cyngor a thâl ychwanegol o £80. Cyfanswm y ddirwy ariannol oedd £2,780.
Dywedodd Susan Gow, Swyddog Iechyd yr Amgylchedd “Mae’r achos hwn yn dangos fod yn rhaid i Weithredwyr Busnes Bwyd gymryd cyfrifoldebau o ddifri i sicrhau eu bod yn darparu bwyd diogel i’r cyhoedd.”