Ar-lein, Mae'n arbed amser

Theatr Soar ym Merthyr Tudful yn “Hanfodol” mewn Astudiaeth Newydd Sbon ar Gymunedau Cryf Ledled Cymru

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Rhag 2020
Gweithgaredd 3

Mae “gwaith" hanfodol” Theatr Soar ym Merthyr Tudful wedi cael ei amlygu ynghyd â 14 grŵp arall mewn ymchwil newydd sbon a gomisiynwyd gan elusen datblygu gymunedol arweiniolYmddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau (BCT) a phartneriaid yn y GGGC, Canolfan Cydweithredol Cymru, DTA Cymru, Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo a Planed. Mae Mapio Asedau Cymunedol Cymru yn adroddiad a gynhyrchwyd gan Assist ac mae’n dangos fod Theatr Soar yn darparu gwasanaethau hanfodol i’r gymuned. Mae’r Ganolfan yn cael ei gweld fel esiampl o ymarfer da ac yn un y dylai grwpiau eraill yng Nghymru ei hefelychu.

Cyhoeddwyd yr astudiaeth ar 25 Tachwedd ac mae’n dangos, am y tro cyntaf erioed, y gwaith pwysig na chaiff ei gydnabod bob amser, y mae grwpiau cymunedol fel Theatr Soar yn eu gwneud ledled Cymru. Mae BCT yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod a meithrin y gwaith di-dâl y mae dros 400 o grwpiau cymunedol yn ei wneud a’u cynnwys fel rhan hanfodol yng nghynlluniau’r dyfodol ar gyfer Cymru.

Mae Theatr Soar yn theatr gymunedol ddwyieithog sy’n cynnig llwyfan i’w chymuned. Mae’r Theatr yn rhan o Ganolfan Soar, Canolfan Iaith Gymraeg sy’n gartref i holl bartneriaid yr iaith Gymraeg ym Mwrdeistref Merthyr: Dysgu Cymraeg Morgannwg, Urdd Gobaith Cymru, Menter Iaith Merthyr Tudful, Caffi Soar a Siop Lyfrau'r Enfys.  Mae Canolfan a Theatr Soar yn meithrin perthynas â’r gymuned trwy’r celfyddydau a threftadaeth. Diben ac ethos y sefydliad yw ehangu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned drwy wella hunanhyder, llesiant ac ysbrydoli uchelgais.  

Mae’r ymchwil yn datguddio fod y 400 a mwy o’r grwpiau cymunedol hyn, fel Theatr Soar yn galon i drefi a phentrefi  Cymru. Maent yn cynnal sylfaen y gymdeithas Gymraeg, yn achub adeiladau rhag dadfeilio ac yn darparu gwasanaethau allweddol i drigolion lleol yn ystod cyfnodau anodd (fel pandemig Covid-19 a’r llifogydd) yn ogystal â gwasanaethau dyddiol hanfodol fel gwasanaethau trafnidiaeth, caffis a swyddfeydd post. Mae’r ymchwil hwn yn arddangos maint a gwerth y gwaith hwn yng Nghymru – amcangyfrifir ei fod werth o leiaf £50 miliwn.

Dywed Chris JohnesPrif Weithredwr BCT: Ni ddylid tanbrisio gwaith grwpiau fel Theatr SoarO ganlyniad i’w gwaith enghreifftiol, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol i ymlacio eu tueddiadau tadol a gosod eu ffydd mewn pobl leol i wybod a gwneud beth sydd orau i’w cymunedau.

Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd rôl grwpiau cymunedol fel Theatr Soar o ddifri. Maent yn atgyfnerthu gwasanaethau’r wlad yn enwedig y rheini sydd wedi cymryd drosodd adeiladau cyhoeddus a chynlluniau. Mae sawl un ohonynt wedi cael eu datblygu o ddim ac maent yn awr yn fusnesau cymdeithasol llwyddiannus. Mae angen i Lywodraeth Cymru feithrin grwpiau cymunedol ac ysbrydoli eraill yng Nghymru i wneud yr un fath. Dyna pam yr ydym yn galw ar y Llywodraeth Cymru nesaf i apwyntio Gweinidog Cymunedau er mwyn blaenoriaethu’r gwaith hwn.”

Yn ôl Lisbeth McLean o Theatr Soar: Rydym yn falch i gael ein cydnabod yn yr ymchwil hwn. Rydym wedi adeiladu’r sefydliad o ganlyniad i gariad a chefnogaeth ein cymuned. Dyna yw allwedd ein llwyddiant. Mae’r gymuned yn teimlo perchnogaeth dros ein hadeiladau; maen nhw’n rhan o’r hyd ydyn ni fel sefydliad. Mae angen i bob cymuned ledled Cymru deimlo fod ganddynt gyfraniad i’w wneud a llais y dylid gwrando arno.”

Cafodd yr ymchwil unigryw a’r map eu lansio yn y digwyddiad ar-lein; Pa mor Gryf yw Cymunedau Cymru?, Ddydd Mercher 25 Tachwedd a chafwyd cyfle hefyd i amlinellu sgyrsiau BCT â dros 250 o gymunedau ar lawr gwlad. Mae grwpiau cymunedol yn aml yn gwella cyfleoedd bywyd preswylwyr ac yn benodol pobl hŷn, plant a phobl ifanc a grwpiau eraill sy’n agored i niwed drwy:   

  • wella eu hiechyd a’u llesiant drwy gynnal gweithgareddau fel clybiau ieuenctid, grwpiau rhieni a phlant bach a gwasanaethau cymorth llesiant meddwl;
  • cynnig digwyddiadau cymdeithasol poblogaidd fel boreau coffi a chaffis cymunedol;  
  • cyflogi staff a chyfrannu at yr economi leol (mae gan dros hanner y grwpiau cymunedol a restrir incwm o rhwng £100,000 ac £1 miliwn ac mae 5% ohonynt yn gwneud trosiant o £1 miliwn, o leiaf
  • darparu gwasanaethau hanfodol drwy siopau dros dro a swyddfeydd post;
  • diogelu’r amgylchedd lleol.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni