Ar-lein, Mae'n arbed amser

Miloedd i elwa o arian Ffos-y-fran ar gyfer prosiectau chwaraeon

  • Categorïau : Press Release
  • 31 Hyd 2019
Merthyr RFC new clubhouse

Mae dau brosiect chwaraeon o Ferthyr Tudful am dderbyn £420,000 a ddyfarnwyd i wella cyfleusterau a fydd o fudd i filoedd o bobl ledled y fwrdeistref sirol.

Bydd Clwb Rygbi Merthyr ac Ymddiriedolaeth Cymunedol Ardal Treharis (YCAT) yn derbyn yr arian oddi wrth Gynllun Grantiau Mawr Ffos-y-fran. Bydd y clwb rygbi yn ei dderbyn i adeiladu hyb cymunedol ym maes chwarae’r Wern a YCAT yn ei dderbyn i uwchraddio llifoleuadau ym maes chwarae pêl-droed Parc Taf Bargoed.

Ail gam prosiect New Shoots: Grassroots Clwb Rygbi Merthyr yw’r hyb cymunedol, a bydd yn darparu gwagle nid yn unig i rygbi ond i weithgareddau a mentrau lleol hefyd gyda llu o sefydliadau eraill yn barod i’w ddefnyddio.

Dywed Clwb Rygbi Merthyr y bydd ei brif grŵp targed yn parhau i gynnwys dynion a menywod ifanc, ond gan gynyddu’r ffocws ar fenywod a’r uchelgais i ail-greu tîm menywod. Y mae hefyd yn archwilio i gyflwyno rygbi byddar, rygbi Unedig a rygbi cadair olwyn.

“Mae gweledigaeth y clwb yn llawer yn fwy ac yn ehangach na rygbi yn unig,” dywed Cadeirydd y Clwb, Justin Griffiths. “Bydd yr hyb yn cyfrannu at lesiant cymdeithasol a chorfforol y gymuned leol drwy ddarparu man cyfarfod mawr ei angen ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol ar yr ystâd. Mae hefyd yn cyfrannu at agenda llesiant drwy hyrwyddo ffordd o fyw actif, nid yn unig drwy rygbi ond hefyd drwy weithgareddau eraill”.

Bydd y prosiect yn derbyn £400,000 tuag at gyfanswm y costau o £800,000, a fydd hefyd yn cynnwys gosod wyneb newydd ar y maes parcio a gwella’r llifoleuadau.

Yn Nhreharis bydd y prosiect yno’n derbyn £20,000 tuag at ddarparu llifoleuadau ar y maes chwarae ym Mharc Taf Bargoed. Mae’r cyfleuster gwerth £500,000, a gafodd grant arall Ffos-y-fran wedi ei ddyfarnu’n flaenorol iddo, yn agos at ei gwblhau ac mae’n cynnwys stand gwylio, ystafelloedd newid a chaffi.

Ar hyn o bryd mae’r clwb yn cynnig pêl-droed i bron i 200 o fechgyn a merched ifanc ac mae hefyd yn cefnogi tîm cwbl ddwyieithog a hyfforddwyr. Ceir cynlluniau i annog rhagor o ferched i chwarae drwy ymagweddau newydd fel ‘pêl-guriad’, sy’n cyfuno dawns, cerddoriaeth a sgiliau pêl-droed.

“Bydd y cyfleuster newydd yn ddatblygiad sensitif sydd yn lleoliad chwaraeon o’r radd flaenaf a bydd yn annog pobl leol ac ymwelwyr â’r ardal i gael mynediad at a gwerthfawrogi’r cyfleuster ei hun, a Pharc Taf Bargoed fel atyniad twristiaid ac ymwelwyr,” dywedodd yr Ysgrifennydd Richard Thomas.

Cafodd Cynllun Grantiau Cymunedol Ffos-y-fran ei sefydlu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful mewn cydweithrediad â Merthyr (De Cymru) Cyfyngedig, sy’n rhoi £1 am bob tunnell o lo a werthir o gynllun adennill tir Ffos-y-fran. Cafodd mwy na £*m ei ddyfarnu i amrywiaeth eang o grwpiau ac achosion ers i’r safle agor yn 2007.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, y Cynghorydd Geraint Thomas: “Mae cronfa Ffos-y-fran yn parhau i gyfrannu’n fawr at ansawdd bywyd ar gyfer preswylwyr cymunedau ledled y fwrdeistref sirol.

“Bydd y ddau brosiect hyn yn darparu cyfleusterau a fydd yn gwella iechyd, ffitrwydd a hapusrwydd pobl o bob oed. Llongyfarchiadau i’r ymgeiswyr am weithio mor galed arnynt.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni