Ar-lein, Mae'n arbed amser

Gyda’n gilydd gallwn gadw pobl yn ddiogel

  • Categorïau : Press Release
  • 06 Gor 2020
default.jpg

Mae ymgyrch yn lansio heddiw ar draws Cymru i annog pobl i gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol os ydynt yn bryderus bod aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog mewn perygl o ddioddef camdriniaeth, esgeulustod neu niwed.

Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru wedi gweld lleihad mewn atgyfeiriadau i’w gwasanaethau ers y cyfyngiadau. Mae camdriniaeth, esgeulustod a niwed yn dal i ddigwydd ond mae’r cyfleoedd i adnabod yr arwyddion wedi lleihau oherwydd bod mynediad cyfyngedig i leoliadau gofal plant, ysgolion a sefyllfaoedd cymdeithasol.

Yn awr, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n gofalu am ein gilydd ac yn annog pobl i gysylltu â’u gwasanaethau cymdeithasol lleol neu ffonio 101 os ydynt yn poeni bod rhywun mewn perygl.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasoly Cynghorydd Chris Davies: “Mae’r gwasanaethau cymdeithasol ar agor ac yn barod i helpu os yw pobl yn bryderus bod angen cymorth ar aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog.

“Er ein bod ni wedi cadw mewn cysylltiad â’r bobl a oedd eisoes yn hysbys inni cyn y cyfyngiadau, mae risg bod camdriniaeth, esgeulustod neu niwed yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig ac o bosib yn gwaethygu yn ystod y pandemig.

“Rwy’n annog unrhyw un sy’n poeni i ffonio’r gwasanaethau cymdeithasol. Gall fod yn benderfyniad anodd ond yn un a all helpu i arbed rhywun rhag dioddef camdriniaeth, esgeulustod neu niwed. Gallwch hefyd ffonio 101 neu, os yw’n argyfwng, ffoniwch 999.

“Yn ystod yr amser anodd hwn mae’n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i ofalu am ein gilydd – gyda’n gilydd gallwn gadw pobl yn ddiogel.”

Ewch i’r wefan Iach a Diogel https://llyw.cymru/iach-a-diogel/cadw-pobl-yn-ddiogel i gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau cymdeithasol lleol a sut i fynegi pryder. Os yw eich galwad yn un brys ffoniwch 101, neu mewn argyfwng ffoniwch 999.

Gyda’n gilydd gallwn gadw plant, pobl ifanc ac oedolion yn ddiogel.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni