Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gyda'n gilydd mae modd i ni atal plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol
- Categorïau : Press Release
- 11 Ebr 2019
Ydych chi'n:
- Rhiant?
- Yn Fam-gu /Tad-cu?
- Rhywun sy'n gofalu, yn gweithio neu'n gwirfoddoli gyda phlant a phobl ifainc?
Yna dewch i sesiwn codi ymwybyddiaeth ar amddiffyn plant a phobl ifainc rhag cam-drin rhywiol.
Diben y sesiwn, sy'n cael ei chynnal gan Stop it Now! Cymru, yw tynnu sylw at ddangosyddion risg mewn perthynas â phlant sydd, o bosibl, mewn perygl o gael eu cam-drin yn rhywiol, yn ogystal ag ymddygiadau mewn perthynas â'r broses meithrin perthynas amhriodol
Mae Stop it Now! Cymru yn brosiect er mwyn atal plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol. Mae'n gweithio ar hyd a lled Cymru i sicrhau bod rhieni, cynhalwyr a gweithwyr y rheng flaen yn y sefyllfa orau posibl er mwyn amddiffyn plant rhag cam-drin rhywiol a cham-fanteisio.
Rydyn ni'n credu bod modd atal cam-drin plant yn rhywiol a bod gan bob oedolyn rôl i'w chwarae wrth amddiffyn plant rhag niwed rhywiol. Mae modd cyflawni hyn orau pan fydd oedolion yn effro i arwyddion cam-drin plant yn rhywiol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o'r math o ymddygiad bydd rhywun sy'n peri risg i blant ei arddangos, a gwybod ble i ofyn am help a chyngor.
Mae'r rhai sydd wedi mynd i sesiynau tebyg wedi'u cynnal gan Stop it Now! Cymru wedi dweud:
“Roedd yn agoriad llygad i mi ac rydw i'n credu y dylai pawb fynd i'r sesiynau yma”
“Roedd y sesiwn yn ddefnyddiol iawn ac yn llawn gwybodaeth. Roedd wedi'i chyflwyno'n dda. Diolch yn fawr"
"Roedd y sesiwn yn WYCH! - Dywedodd y sesiwn wrthym ni'r hyn sydd angen i ni wybod ynglŷn â chadw plant yn saff mewn ffordd addysgiadol a diogel."
Mae'r sesiwn yn cael ei chynnal yn:
Theatr Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB
Dydd Mercher, 24 Ebrill, 2019
10.00am–12.15pm
I gadw eich lle, anfonwch e-bost at beth.melhuish@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 484560.
Am ragor o wybodaeth am Stop it Now! Cymru, ewch i www.stopitnow.org.uk/wales.htm