Ar-lein, Mae'n arbed amser

Galw am ymgynghorwyr profiadol ar gyfer ‘Uwchgynllun’ treftadaeth uchelgeisiol

  • Categorïau : Press Release
  • 10 Ebr 2019
Riverside Project Progressing

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn edrych am dîm o ymgynghorwyr profiadol i baratoi Uwchgynllun strategol ar gyfer atyniad i ymhelwyr a fydd o ansawdd rhyngwladol ac yn seiliedig ar rôl allweddol y dref yn ystod y chwyldro diwydiannol.

Bydd y datblygiad a fydd yn costio miliynau o bunnoedd wedi ei ganoli yng Nghastell Cyfarthfa a’i barc 77 hectar a oedd unwaith yn gartref i deulu’r Crawshay, y meistri haearn a gynorthwyodd i droi Merthyr Tudful yn ganolfan gynhyrchu haearn fwyaf y byd yn y 19 ganrif.

Mae’r tendr a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn rhagweld ymarfer uwchgynllunio 12 mis o hyd ar gyfer datblygiad sydd eisoes wedi cael ei gynllunio gan Lywodraeth Cymru fel porth allweddol ar gyfer Parc Rhanbarthol arfaethedig ar gyfer Cymoedd De Cymru.

Mae’r cysyniad yn seiliedig ar y cynigion a gynhwyswyd yn adroddiad y Criwsibl gan Gomisiwn Dylunio Cymru yn dilyn charrette cynllunio yn 2017. Daeth y charrette â mwy na 60 o bobl ynghyd – arbenigwyr cynllunio, arbenigwyr amgueddfedydd a threftadaeth a sefydliadau cymunedol – i rannu a thrafod syniadau ar gyfer yr ardal. Derbyniwyd yr adroddiad yn unfrydol gan y cyngor yn 2018 ac mae’n cynnig buddsoddiad o dros £50 miliwn er mwyn creu canolfan a fydd o bwysigrwydd cenedlaethol.

Daw’r adroddiad i’r casgliad: “Mae stôr gyfoethog o asedau’r dref yn cynnig cyfle unigryw i gyflawni’r cydlyniad a’r effaith y mae Merthyr yn ei haeddu. Gall gweledigaeth fentrus adael ôl yr asedau hynny ar ymwybyddiaeth y cyhoedd mewn modd sy’n addas i’r dref fel lleoliad o bwysigrwydd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.”

Yn cydredeg â phrosiect yr Uwchgynllun, mae llinell amser a phrosiect arall a fydd yn ymdrin â’r broses o sefydlu Cyfrwng at Ddibenion Arbennig (CaDdA,) is-gwmni. Gobeithir y bydd yn derbyn statws elusennol ac y bydd yn weithredol cyn y bydd yr Uwchgynllun yn cael ei ddarparu.

Mae’r cyngor yn edrych i apwyntio tîm a fydd yn arwain y cynllunio er mwyn cynhyrchu uwchgynllun gweledigaethol, strategol ar gyfer datblygiad y dirwedd ddiwydiannol ac asedau treftadaeth ystâd Cyfarthfa yn ogystal ag asedau treftadaeth eraill y dref.

Bydd yr uwchgynllun creadigol, aml haenog yn dynodi ac yn diffinio’r briff ar gyfer yr atyniad canolog ar gyfer ymwelwyr a nifer o brosiectau cysylltiedig a fydd yn cael eu datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Bydd y canlyniad yn chwarae rôl bwysig yn gosod y safon ar gyfer rhagoriaeth cynllunio yn natblygiad y dyfodol. Bydd yn dal y dychymyg er mwyn denu buddsoddiad a niferoedd ymwelwyr ac yn cynnal cefnogaeth leol.

Dywedodd Gareth Chapman, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful: “Mae cyhoeddiad y tendr hwn yn garreg filltir hollbwysig ar y ffordd i wireddu ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Cyfarthfa a’r dref gyfan. Rydym yn benderfynol y bydd hwn yn brosiect o’r ansawdd uchaf. Rwy’n gobeithio y bydd yn ymgysylltu diddordeb talentau gorau’r wlad a thu hwnt er mwyn ein cynorthwyo i gyrraedd ein nod.”

Dywedodd Carole-Anne Davies, Comisiwn Dylunio Cymru: “Mae gan Ferthyr Tudful pob rheswm i ddisgwyl ansawdd a chreadigrwydd sydd o safon ryngwladol. Mae gan Gyfarthfa a’r cylch hanes o ddyfeisgarwch byd-eang. Mae yma gyfle i adfywio’r hanes ag uchelgais newydd er mwyn ennyn dychymyg y cyhoedd a denu ymwelwyr newydd i Ferthyr Tudful a’r rhanbarth ehangach.”

Dywedodd Geraint Talfan Davies, Ymgynghorydd i’r Comisiwn Dylunio: “Mae’n rhaid i ni sicrhau bod cynllun o’r raddfa a’r sgôp hwn yn cael ei sefydlu ar y sylfeini cadarnaf. Bydd ymarfer yr Uwchgynllun hwn yn ein galluogi i asesu holl ddarnau’r jig-so fel y gallant, ar y cyd, wneud teilyngdod â phwysigrwydd stori Merthyr Tudful a chyffroi cenedlaethau’r dyfodol.”

Nodyn: Bydd rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y gwaith hwn gyflwyno eu ceisiadau erbyn 17 Mai 2019 a disgwylir penderfyniad ar ddechrau Gorffennaf. Bydd y gwaith yna’n cymryd 12 mis pellach.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni