Ar-lein, Mae'n arbed amser

Goleuo’r dref yn felyn ar Ddiwrnod Myfyrio dros Covid-19

  • Categorïau : Press Release
  • 23 Maw 2021
Day of Reflection

Bydd adeiladau yng nghanol tref Merthyr Tudful yn troi’n felyn heddiw, 23 Mawrth, fel rhan o ddiwrnod cenedlaethol cofio am y bobl a fu farw o Covid-19 dros y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd Redhouse Cymru a Choleg Merthyr Tudful ynghyd â cherflun y Galon Haearn  ar Sgwâr Penderyn yn cael eu goleuo i gofio am fywydau’r Cymry a gollwyd yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig.

Bydd calon enfawr felen yn cael ei pheintio hefyd ar y ffordd rhwng Redhouse a’r Llyfrgell Ganolog gyda’r geiriau ‘Fe gofiwn am byth’.

Cafodd heddiw ei ddatgan fel ‘Diwrnod Myfyrio’ cenedlaethol i nodi pen blwydd cyntaf Prydain yn dechrau’r cyfnod clo ac i gofio am y 125,000 o bobl ledled y DU a fu farw yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae trefnwyr y digwyddiad – sy’n cynnwys y Groes Goch, Marie Curie a’r Gwasanaeth Gwirfoddoli Brenhinol – yn gofyn i bobl gynnal munud o dawelwch am ganol dydd, ac yna caiff sawl tirnod amlwg eu goleuo dros y wlad am 8pm.  

Dywedodd Jane Sellwood o Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful: “Bydd y Redhouse yn ymuno ag eraill ledled y wlad er cof am y sawl a fu farw yn ystod y pandemig ac i gefnogi’r teuluoedd a adawyd ar eu hol, drwy gael ei oleuo’n felyn ar 23 Mawrth.

“Mae Llesiant Merthyr hefyd wedi comisiynu darn o waith celf a fydd yn cael ei leoli’n barhaol y tu ôl i’r Llyfrgell ger yr ardd goffa. Ciaff pobl o bob rhan o’r fwrdeistref sirol wahoddiad i ychwanegu enwau’r anwyliaid a gollwyd, at y gofeb.”

#lightupwalestoremember

#covid19familieswales

 

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni