Ar-lein, Mae'n arbed amser
Safonau Masnach – Atafaeliad Nwyddau
- Categorïau : Press Release
- 16 Awst 2019

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi cyflawni archwiliad ar leoliad busnes yng nghanol y dref ble y cafodd swm mawr o sigaréts anghyfreithlon eu hatafaelu.
Bydd archwiliadau’n digwydd i’r mater hwn bellach.
Hysbysodd Safonau Masnach eu bod yn derbyn cynnydd o ran gwybodaeth am gyflenwad o sigaréts a thybaco anghyfreithlon ac maen nhw’n apelio i’r cyhoedd eu cynorthwyo i ddarparu gwybodaeth.
Dywed Paul Lewis, Rheolwr Safonau Masnach “Mae angen cymorth y cyhoedd arnom i fynd i’r afael â’r broblem hon sydd ar ei thyfiant. Dangosodd brawychiad iechyd diweddar ym Mhowys y risg o brynu nwyddau tybaco rhad ac roedd hefyd yn pryderu fod plant yn prynu oddi wrth fasnachwyr anghyfreithlon.”
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r Gwasanaeth Safonau Masnach ar (01685) 725000 neu e-bostio tstandards@merthyr.gov.uk. Caiff yr holl wybodaeth ei chadw’n gwbl gyfrinachol.