Ar-lein, Mae'n arbed amser

Safonau Masnach yn mynd i’r afael â chasgliadau anghyfreithlon o fetel sgrap

  • Categorïau : Press Release
  • 10 Medi 2020
Fined


Mae ymgyrch gan Dîm Safonau Masnach Merthyr Tudful i fynd i’r afael cynnydd mewn casglwyr sgrap didrwydded yn y Fwrdeistref Sirol wedi arwain at 3 erlyniad llwyddiannus a diddymiad Trwydded Safle Metel Sgrap.

Cafodd Jeremy BOYES o Aberpennar ei erlyn am gasglu sgrap yn anghyfreithlon ar ôl i swyddogion archebu apwyntiad i gasglu metel sgrap wrth ymateb i hysbyseb cyfryngau cymdeithasol a anelwyd at breswylwyr Merthyr Tudful. Cafwyd Boyes yn euog yn ei absenoldeb o Lys Ynadon Merthyr ar 5 Awst 2020 am drosedd o dan Ddeddf Delwyr Metel Sgrap. Cyflwynodd yr ynadon ddirwy iddo a chostau’n dod i gyfanswm o £731.

Cafodd Nicholas GRAY o Hengoed ei erlyn o ganlyniad i gasglu ffwrn yn ddigymell a oedd wedi ei leoli y tu fewn i ardd eiddo ym Merthyr. Aeth Grey i mewn i’r eiddo a chymryd yr eitem heb gael caniatâd perchennog y tŷ yn gyntaf. Yn Llys Ynadon Merthyr ar 5 Awst 2020 plediodd Gray yn euog i’r drosedd o dan Ddeddf Delwyr Metel Sgrap. Cyflwynodd yr ynadon ddirwyon o £433.

Hefyd gwnaeth swyddogion cudd gymryd amrywiaeth o fetel sgrap i K Jones Scrap Metals yn Iard Cyfarthfa, Merthyr Tudful, yn dilyn gwybodaeth a dderbyniwyd fod yr iard yn talu arian parod am fetel sgrap. O dan Ddeddf Delwyr Metel Sgrap, y mae’n anghyfreithlon talu arian parod yn gyfnewid am fetel sgrap.

Ni ofynnwyd i’r Swyddogion ddarparu unrhyw adnabyddiaeth o’u hunain gan Kerry Jones, perchennog y safle, a thalwyd arian parod iddyn nhw am y metel a dderbyniwyd yn y safle.

Cafodd Jones ei erlyn ac ymddangosodd o flaen Ynadon Merthyr ar 5 Awst 2020 ble y plediodd yn euog i’r troseddau o dan Ddeddf Delwyr Metel Sgrap. Cyflwynodd yr ynadon ddirwyon a chostau i gyfanswm o £975.

Yn dilyn cludo’r sgrap cafodd trwydded safle K Jones Metals ei adolygu a gwnaed penderfyniad i ddiddymu trwydded y safle. Apeliodd Jones yn erbyn penderfyniad y Cyngor i ddiddymu’r drwydded, ond cafodd yr apêl ei gwrthod gan Lys Ynadon Merthyr ac nid oes trwydded gan y safle bellach.

Dywedodd Paul Lewis, Pennaeth Gwasanaethau Diogelu ac Amddiffyn “Ceir cyfreithiau a rheoliadau llym o gwmpas casglu a chael gwared ar fetel sgrap. Mae hyn er mwyn atal dwyn metel a thipio anghyfreithlon a diogelu ein hamgylchedd yn yr ardal ble’r ydym yn byw.

Mae’r masnachwyr anghyfreithlon hyn yn tandorri casglwyr sgrap cyfreithlon a thrwyddedig ac nid ydynt wedi cael eu fetio i sicrhau eu bod yn ‘gywir ac yn iawn’ i weithredu’n gyfreithlon. Byddwn yn parhau i atal y gweithgaredd anghyfreithlon hwn i ddiogelu ein preswylwyr rhag masnachwyr ffug Merthyr Tudful.”

Dywedodd Geraint Thomas, Aelod Portffolio ar gyfer Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd “Mae’r ymgyrch hon yn anfon neges glir na chaiff delio’n anghyfreithlon mewn metel sgrap ei oddef ym Merthyr Tudful. Byddwn yn parhau i fynd i’r afael â’r gweithgaredd anghyfreithlon hwn i ddiogelu ein preswylwyr a’r amgylchedd ble’r ydym ni’n byw.”

Gall preswylwyr roi gwybod am unrhyw un y maen nhw’n credu sy’n gasglwr metel sgrap anghyfreithlon, yn gyfrinachol yma https://www.merthyr.gov.uk/business/trading-standards/report-a-trading-standards-issue/

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni