Ar-lein, Mae'n arbed amser
Busnesau Treharris yn ddiogel i fynd!
- Categorïau : Press Release
- 09 Medi 2020
Mae canol pentref Treharris wedi cael ei wneud yn amgylchedd mwy diogel i siopa ynddo ar ôl i’r Cyngor roddi Offer Diogelu Personol ODP i nifer o fusnesau lleol.
Cyflwynodd swyddogion yr ODP i fwy na dwsin o leoliadau yn cynnwys menig, hylif diheintio dwylo, mygydau wyneb a feisoriau, a sticeri llawr.
Ymhlith y busnesau a dderbyniodd offer oedd Caffi Stryd Perrot, Meithrinfa Ddydd Wyn Bach, Siop Trin Gwallt Jas Hair Design, Treharris Sportsgear, A&S Jones, Celebrations, Acorn Travel, First 4 Rentals, Karl’s Cars, Siop Gyfleus Sgwâr Top, Arra Cleaning a Fferyllfa R&M Parry.
Aeth yr aelod ward lleol y Cynghorydd Gareth Richards i ymweld â phob un i wirio eu bod nhw’n hapus gyda’u stoc.
“Mae ein holl fusnesau wrthi’n masnachu eto, gan ddod â theimlad o normalrwydd yn ôl i Dreharris, a oedd yn fawr ei angen,” dywedodd. “Roedden nhw’n falch o dderbyn yr ODP ac roedd pawb yn hyderus eu bod yn gweithredu’n ddiogel.”