Ar-lein, Mae'n arbed amser

Prosiect i fytholi stori hanesyddol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

  • Categorïau : Press Release
  • 31 Ion 2020
Trevithick Day build-up

Mae plant ysgol Merthyr Tydfil yn parhau i ddysgu am ddigwyddiad arwyddocaol yn hanes y dref drwy brosiect sy’n cyfuno celf, ysgrifennu creadigol a chreu ffilmiau.

Yn ystod y mis sy’n arwain at ddathliad blynyddol taith locomotif stêm gyntaf y byd, a ddigwyddodd ym Merthyr Tudful ym 1804, bydd chwech o ysgolion cynradd yn cyfranogi mewn cystadleuaeth i gynhyrchu darn o waith celf ac ysgrifennu creadigol am beiriannydd a dylunydd y locomotif, Richard Trevithick.

Bydd yr ysgolion sy’n cymryd rhan - Gwaunfarren, Edwardsville, Troedyrhiw, Caedraw, Ysgol Rhyd y Grug a Bedlinog - hefyd yn cael y fraint o berfformiad dehonglydd treftadaeth a storïwr lleol, Tony Thomas, a fydd yn actio Trevithick a’u harwain am dro ar y trywydd sy’n rhedeg ar hyd taith y dramffordd wreiddiol i Dwnnel Trevithick, sef safle’r foment hanesyddol.

Ar ddiwrnod Trevithick ei hun, 21 Chwefror, gwahoddir aelodau o’r cyhoedd i’r twnnel i fwynhau Tony Thomas yn ail-greu’r digwyddiad, tra bydd y hanesydd lleol Huw Williams yn rhoi sgwrs am yr orchest yn Redhouse Cymru.

Caiff y prosiect ei redeg ar y cyd gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Merthyr Tudful, Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr Tudful a’r Cyngor Bwrdeistref Sirol, gyda chefnogaeth £3,000 o gronfa grant canolradd Ffos-y-fran.

Mae’r ysgolion yn darganfod am Trevithick drwy wersi yn yr ystafell ddosbarth, ac yna byddant yn gysylltiedig â chynhyrchiad o ffilm sy’n eu cynnwys yn siarad am; ac yn gofyn i’w teuluoedd beth maen nhw’n ei wybod am y dyn ac am y digwyddiad.

Aethant hefyd i weithdy gwisgoedd hanesyddol a gyflwynwyd gan staff Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa, ble wnaethon nhw ddarganfod sut beth oedd bywyd ym Merthyr Tudful yn y 19 ganrif.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd y Cynghorydd Geraint Thomas: “Mae stori Trevithick yn un enfawr i Ferthyr Tudful – fe drawsnewidiodd y byd – ac eto nid yw pawb sy’n byw yma sy’n ymwybodol ohoni.

“Bydd y prosiect athrylithgar hwn yn helpu’r plant ysgol i ymgynefino â’r hyn ddigwyddodd ym 1804 ac i drosglwyddo eu gwybodaeth i’w teuluoedd, gyda’r gobaith y bydd hynny’n sicrhau fod cenedlaethau’r dyfodol o breswylwyr yn parhau i ddathlu’r digwyddiad hanesyddol hwn.”

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni