Ar-lein, Mae'n arbed amser
Dau ddyn yn euog am gyflenwi sigaréts anghyfreithlon
- Categorïau : Press Release
- 21 Ion 2020
Ar 8 Ionawr, 2020, yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, plediodd Mr. Tanya Suleman Nadr o Stryd Beauchamp, Caerdydd a Mr. Gharib Ali Ahmed o Stryd Cromwell, Caerloyw yn euog i 30 o gyhuddiadau’n ymwneud â chyflenwi dros 26,000 o sigaréts anghyfreithlon o’r Siop Un Stop ym Mhontmorlais, Merthyr Tudful. Daethpwyd â’r cyhuddiadau ger bron yn dilyn archwiliad a gyflawnwyd gan Wasanaeth Safonau Masnach Merthyr Tudful.
Clywodd y llys fod swyddogion o’r Gwasanaeth Safonau Masnach wedi cyflawni nifer o brofion prynu o’r siop ble mae sigaréts a thybaco’n cael eu gwerthu, ac ar ôl eu harchwilio, gwelwyd eu bod yn ffug ac yn methu o ran arddangos labeli rhybudd iechyd cywir. Yn dilyn cyrch dilynol yn yr eiddo ac eiddo cysylltiedig, cafwyd cyflenwad mawr o sigaréts anghyfreithlon a thybaco. Roedd peth o’r sigaréts wedi eu cuddio y tu ôl i wal ffug a gafodd ei darganfod gan gi datgelu tybaco arbenigol, a ddefnyddiwyd gan y Gwasanaeth.
Wrth ddedfrydu, dynododd y Barnwr Thomas, yn sgil nodweddion gwaethygedig a maint y drosedd, ei bod yn glir bod y troseddau hyn yn croesi trothwy carcharu.
Cafodd Gharib ddedfryd 0 18 wythnos o garchar wedi ei ohirio am 12 mis gyda 150 awr o ofyniad gwaith di-dâl; cafodd hefyd ddirwyon a chostau’n dod i gyfanswm o £2503.
Cafodd Tanya ei ddedfrydu am 18 wythnos o garchar wedi ei ohirio am 12 mis gyda 150 o ofyniad gwaith di-dâl; cafodd orchymyn i dalu cyfraniad at gostau’r erlyniad sef £1338 a thâl ychwanegol o £115.
Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Aelod Cabinet dros Safonau Masnach, “ Roedd hwn yn archwiliad trylwyr dan ofal ein Gwasanaeth Safonau Masnach ac mae’r gosb yn adlewyrchu natur ddifrifol y drosedd. Nid yw gwerthu tybaco anghyfreithlon yn drosedd heb ei dioddefwyr, ac mae’r risg a gyflwynir i Iechyd Cyhoeddus yn un sylweddol.”
Dywedodd Paul Lewis, Pennaeth Gwasanaethau Gwarchod a Diogelu Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful “Rydym yn apelio at unrhyw un sydd â gwybodaeth am gyflenwad o nwyddau anghyfreithlon i roi gwybod i Safonau Masnach drwy ein ffonio ar 03454 04 05 06 neu drwy e-bostio tstandards@merthyr.gov.uk <mailto:tstandards@merthyr.gov.uk>. Caiff yr holl wybodaeth ei thrin yn gwbl gyfrinachol.”