Ar-lein, Mae'n arbed amser

Llwybr yn Faenor yn cau oherwydd y gwaith ffordd

  • Categorïau : Press Release
  • 13 Hyd 2022
Vaynor footpath closure

Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn cau llwybr troed yn Faenor dros dro er mwyn i’r Gwaith gael ei gynnal ar broject ffordd ddeuol Blaenau’r Cymoedd, yr A465.

Bydd llwybr troed 34 Faenor ar gau i gerddwyr o ddydd Llun nesaf (Hydref 17) am ddim hwy na chwe mis, er lles y cyhoedd oherwydd y peryg o ddeunyddiau yn disgyn.

Mae’r llwybr yn rhedeg tua 750 metr gerllaw Gerddi’r Llyn, trwy fynedfa ffrwd Cyfarthfa, i fyny at ac yn cynnwys pont Blaenau’r Cymoedd. Mae’r llwybr i’w weld ac wedi ei nodi o A i B ar y map isod.

Does dim llwybr amgen.

E-bostiwch row@merthyr.gov.uk neu ffoniwch 07563 398667 am fwy o wybodaeth.

 

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni