Ar-lein, Mae'n arbed amser

Taith Rithiol o Ferthyr Tudful yn rhan o ymgyrch llwybrau cenedlaethol Croeso Cymru

  • Categorïau : Press Release
  • 22 Chw 2023
Virtual Merthyr

Mae Merthyr Tudful ar fin chwarae rhan flaenllaw mewn ymgyrch genedlaethol i hybu twristiaeth a hynny ar y cyd â lansiad taith rithiol y Cyngor o’n tirwedd anhygoel.  

Merthyr Rhithiol – Taith 360° sydd yn tywys ymwelwyr i brif atyniadau’r Fwrdeistref Sirol gan nodi mannau o ddiddordeb sydd ag arwyddocâd diwylliannol. Canolbwyntir ar Daith Taf a’i chysylltiadau â chyfleusterau, atyniadau a busnesau.

Dynodwyd eleni’n flwyddyn Llwybrau/ Wales by Trails gan Croeso Cymru, sef y ddiweddaraf mewn ‘cyfres o flynyddoedd thematig’ – yn dilyn Antur, Chwedl, Môr, Darganfod a’r Awyr Agored.

Mae ymgyrch ‘Llwybrau’ i’w gweld ar y teledu, ledled y DU ac yn cael ei chefnogi gan hysbysebu digidol a deunyddiau marchnata mewn prif orsafoedd tanddaearol yn Llundain. Mae’n annog ymwelwyr a phreswylwyr i ‘guradu eu teithiau epig eu hunain’ yng Nghymru yn ystod 2023.  

Fel rhan o bartneriaeth y Cyngor â phrosiect rhyngwladol, Trail Gazers, mae’r Tîm Rheoli Cyrchfan yn Ymweld â Merthyr / Visit Merthyr wedi comisiynu Taith Rithiol Merthyr.  

Cafodd Trail Gazers, Ardal yr Iwerydd ei hariannu gan yr UE ac mae’n annog pobl yn y DU, Iwerddon, Sbaen, Portiwgal a Ffrainc ‘oddi ar y llwybrau ac i’r cymunedau lleol gwledig i drochi mewn profiadau diwylliannol, coginio a phrofiadau bywyd newydd.’

Cafodd ‘Canllaw Cyflym’ ei greu er mwyn eich cynorthwyo i lywio Merthyr Rhithiol 360°. Dyma’r ddolen: https://www.visitmerthyr.co.uk/media/245587/virtual-merthyr-360-tour-help-guide-video.mp4

Yn ogystal, mae cyfres o 12 fideo wedi’u creu ar gyfer pob atyniad a chyrchfan o ddiddordeb a hynny er mwyn hyrwyddo’r daith drwy’n hardal arbennig. Gellir dod o hyd i’r gyntaf yn y gyfres sydd yn hyrwyddo Taith Taf yma: https://www.visitmerthyr.co.uk/media/245588/virtual-merthyr-360-tour-taff-trail-video.mp4

Dywedodd y Cynghorydd Geraint Thomas, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ac Aelod o’r Cabinet ar gyfer Adfywio a Diogelu’r Cyhoedd: “Yn ystod y pandemig, roedd natur yn hafan i ni a defnyddiodd mwy o bobl nag erioed o’r blaen ein Llwybrau.

“Mae’r diddordeb hwnnw wedi parhau wedi’r pandemig a dengys ymchwil fod yn aml, well gan bobl dreulio’u gwyliau yn mwynhau profiadau mwy ystyrlon a phersonol mewn lleoliadau prydferth sydd yn cael eu hystyried i fod oddi ar y llwybr arferol nac mewn cyrchfannau gwyliau mwy confensiynol a phoblogaidd.

“Ein nod ym Merthyr Tudful yw rhoi ffocws arbennig ar Daith Taf a’r cyfleoedd amrywiol y mae’n ei gynnig – nid yn unig i bobl fwynhau’r golygfeydd gwych ond hefyd, cynorthwyo busnesau i fanteisio ar y cynnydd mewn traffig ymwelwyr.

“Yn anffodus, mae rhan o’r Llwybr wedi cael ei gau am gyfnod er mwyn hwyluso prosiect deuoli Blaenau’r Cymoedd. Mae Taith Taf yn rhedeg am 14 milltir trwy’r fwrdeistref sirol ac mae llawer rhagor i’w ddarganfod.”

Mae Ymweld â Merthyr / Visit Merthyr yn gobeithio y bydd yr ychwanegiad newydd hwn a fydd ar gael ar ein gwefan yn www.visitmerthyr.co.uk yn gwella’r profiad i ymwelwyr ac yn gymorth iddynt gynllunio’u hanturiaethau yn yr ardal, lawer yn haws.

  • Nodwch nad yw’r Daith yn cynnwys busnesau canol y dref ond maent yn cael eu rhestri ar Fap Rhyngweithiol Ymweld â Merthyr / Visit Merthyr: Interactive Map | visitmerthyr.co.uk Bydd y tîm yn parhau i geisio ychwanegu rhagor o leoliadau a fideos, mewn ymateb i boblogrwydd y rhaglen rithiol. Mae cyfle i’n preswylwyr nodi eu sylwadau, isod ar unrhyw leoliad cudd neu hoff leoliad nad sydd wedi eu cynnwys ac yr hoffech iddynt gael eu hychwanegu.

YCHWANEGWCH God QR er mwyn sganio a mynd yn uniongyrchol i Merthyr Rhithiol YMA 

Visit Merthyr QR Code

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni