Ar-lein, Mae'n arbed amser

Wythnos Pleidlais 16 – Os ydych chi'n 16 neu 17 oed cewch chi gofrestru i bleidleisio

  • Categorïau : Press Release
  • 22 Chw 2021
IMG_3691 (1)

22 i 26 Chwefror yw ‘Wythnos Pleidlais 16’, sef wythnos gyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc i godi ymwybyddiaeth am etholiadau'r Senedd ym mis Mai – etholiad hanesyddol a fydd yn galluogi pobl ifanc 16 ac 17 oed i bleidleisio am y tro cyntaf yng Nghymru.

Yn ôl Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 mae gan y rhai 16 ac 17 oed yr hawl i ddweud beth ddylai ddigwydd ac i rywun wrando arnyn nhw, ac mae camau mawr wedi eu cymryd yng Nghymru eleni i roi mwy o lais i bobl ifanc nag erioed.

Fel rhan o ymgyrch cofrestru i bleidleisio unigryw, rydyn ni wedi gweld pobl ifanc yn cael eu gweddnewid i edrych fel y bydden nhw yn y flwyddyn 2080, gan fyfyrio ar sut y gwnaethon nhw greu hanes a newid y byd, a hynny drwy wneud dim ond cofrestru i bleidleisio pan oedden nhw'n 16 oed. Cafodd yr ymgyrch ei datblygu i annog pobl ifanc i gofrestru i bleidleisio ac ategu ‘Wythnos Pleidlais 16’.

www.youtube.com/playlist?list=PLgsmIGQ31scOco6iFy0DRsXPO1Yckv_Iq

Yn y byd sydd ohoni, mae pleidleiswyr ifanc yn hollbwysig ac, fel person ifanc, mae'ch pleidlais yn cyfrif. Os ydych chi'n gymwys, cofrestrwch i bleidleisio ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio – mae'n gyflym ac yn rhwydd, a bydd yn sicrhau eich bod chi'n gallu cymryd rhan yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2021.

Beth fydd ei angen arnoch chi?

Y cyfan y bydd ei angen arnoch chi yw 5 munud a'ch rhif Yswiriant Gwladol. Fodd bynnag, os nad oes gennych chi eich rhif Yswiriant Gwladol, gallwch chi ddal i gofrestru i bleidleisio – ticiwch y blwch yn nodi nad ydych chi'n gwybod eich rhif Yswiriant Gwladol, a bydd Gwasanaethau Etholiadol Caerffili yn cysylltu â chi yn y dyfodol agos i gael prawf o bwy ydych chi.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni