Ar-lein, Mae'n arbed amser

Rydyn ni wedi digideiddio ein hasesiad maethu ac yn barod am y Pythefnos Gofal Maeth

  • Categorïau : Press Release
  • 11 Mai 2020
Digital foster team

Yn sgil y pandemig Covid-19, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymateb i’r mesurau hynny sy’n ymwneud â chadw pellter cymdeithasol ac sy’n effeithio ar bawb. At hynny, rydyn ni’n parhau i groesawu gofalwyr maeth newydd sy’n dymuno cefnogi ein plant a’n pobl ifanc bregus.

Mae Tîm Maethu Merthyr wedi bod yn gweithio’n galed i ddatblygu dull newydd sy’n defnyddio technolegau megis WhatsApp, Zoom a Teams, fel y gall unrhyw un â diddordeb mewn dod yn ofalwr maeth ddechrau’u proses asesu. O’r blaen, roedd hyn yn rhywbeth a ddibynnai ar nifer o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a sesiynau hyfforddi.

Er gwaetha’r ansicrwydd a grëwyd gan y pandemig Covid-19, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn parhau i gael plant sydd angen gofalwyr maeth i’w gwarchod ar sail wythnosol. Mae ein tîm presennol o ofalwyr maeth yn gwneud gwaith gwych mewn amgylchiadau digynsail, ond mae angen mwy o ofalwyr arnom sy’n gallu cynnig cartref i’n plant a’n pobl ifanc.

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Maethu Rhanbarthol, Alastair Cope, sydd wedi bod ar flaen y gad yn y trawsnewidiad digidol hwn: “Mae’r cyfyngiadau diweddar a ddaeth yn sgil yr ymbellhau cymdeithasol a achoswyd gan y pandemig Covid-19 wedi golygu bod angen inni addasu’r ffordd yr ydyn ni’n gweithredu i gynnal y lefel uchel o ofal sydd ei hangen ar ein plant a’n pobl ifanc. Mae ein gweithwyr cymdeithasol, ein gofalwyr maeth a’n staff cymorth wedi bod yn wych ac wedi cofleidio’r technolegau newydd hyn i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio.”

Gan apelio at unrhyw un sydd eisiau maethu, ychwanegodd: “Dylai unrhyw un sy’n ystyried dod yn ofalwr maeth gysylltu â ni heddiw. Gallwn ddefnyddio’r dechnoleg sy’n gweithio orau iddyn nhw i gynnal yr asesiad cychwynnol a thywys pobl drwy’r broses i ddod yn ofalwyr maeth mewn ffordd sy’n debyg i’r hyn y bydden ni wedi’i weithredu cyn dechrau’r cyfyngiadau presennol.”

Mae heddiw hefyd yn nodi dechrau’r Pythefnos Gofal Maeth - ymgyrch flynyddol ledled y DU a drefnir gan yr elusen flaenllaw, Y Rhwydwaith Maethu. Y pythefnos nesaf yw ein cyfle i dynnu sylw at y gwaith gwych y mae gofalwyr maeth yr Awdurdod Lleol yn ei wneud, ac i annog mwy o bobl i ystyried maethu ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Cofiwch hoffi tudalen Maethu Merthyr ar Facebook - yno, cewch weld yr holl gynnwys diddorol y byddwn yn ei gyhoeddi dros y pythefnos nesaf. Gallwch hefyd ymweld â www.fostercwmtaf.co.uk i ddarganfod mwy am faethu a’n ffonio ni am sgwrs heb unrhyw rwymedigaeth.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni