Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gofalwn Cymru
- Categorïau : Press Release
- 12 Tach 2020

Yr wythnos nesaf (16 Tachwedd) bydd wythnos Gofalwn Cymru yn dechrau – wythnos o ddigwyddiadau rhithiol o ymgyrch Gofalwn Cymru. Nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant a denu mwy o bobl sydd â’r sgiliau a’r gwerthoedd cywir i weithio mewn swyddi gofal â phlant ac oedolion.
Bydd yr wythnos hon yn gyfle i glywed straeon gan ymarferwyr gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a lleoliadau ledled Cymru ac mae rhai ohonynt yn cynnwys ein cydweithwyr yng Nghwm Taf Morgannwg sy’n rhannu eu profiadau o weithio yn y maes gofal felly cadwch eich llygad allan amdanynt!
Dathlwch a thynnwch sylw at y gwaith gwych y mae gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yn eu gwneud gan gefnogi eraill i ystyried gyrfa yn y maes gofal drwy ymuno â’r sgwrs ar-lein. Defnyddiwch yr hashnod #wecareweek #wythnosgofalwncymru. Gallwch hefyd ein hoffi a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol.
Twitter: @wecarewales / @gofalwncymru
Instagram: @gofalwncymrucares
Facebook: @wecarewales / @gofalwncymru
Gwefan: www.wecare.wales