Ar-lein, Mae'n arbed amser

We've listened to your views on the Council telephone service

  • Categorïau : Press Release
  • 02 Mai 2019
237518305

Fel y byddwch yn ymwybodol ohono efallai, mae’r Cyngor wedi newid y ffordd mae’n ateb galwadau ffôn  yn ddiweddar.

Roeddem am gael eich barn felly cynhaliwyd ymarfer adborth pedair wythnos.

Ar ôl gwrando ar yr hyn ddwedoch chi, rydym wedi cwtogi ein neges gyflwyno a rhoi trefn newydd ar yr opsiynau ffôn i siwtio’r gwasanaethau rydych yn eu defnyddio amlaf, yn well.

Er bod llawer o’r adborth yn ymwneud â gallu siarad â rhywun ar unwaith, rydym wedi gorfod lleihau ein gweithlu er mwyn bodloni heriau ariannol y Cyngor.

Rydym yn defnyddio’r system ffôn hon achos dyma’r ffordd fwyaf effeithlon o fodloni ein gofynion. Er mwyn lleihau unrhyw effaith gaiff hyn arnoch chi, ein cwsmeriaid, rydym wedi cryfhau ein gwasanaethau ar-lein a chynnal presenoldeb ffôn. Fodd bynnag, o ganlyniad i’ch adborth, ceir opsiynau i aros am gymorth ychwanegol, ond byddwch yn amyneddgar os fyddwch mewn ciw. Bydd ein staff yn ymdrechu i’ch helpu chi cyn gynted ag y gallant.

Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymarfer.

Caiff y fersiwn newydd hwn ei lansio ddydd Gwener 3 Mai 2019.

Dod o hyd i swyddi newyddion

Gallwch chwilio ein swyddi blaenorol ar gyfer eitemau sy'n cyfateb i'ch diddordebau

Cysylltwch â Ni