Ar-lein, Mae'n arbed amser
Beth yw eich safbwyntiau am brofion COVID?
- Categorïau : Press Release
- 28 Hyd 2020

Ydych chi wedi cael eich profi am Coronafeirws yn ddiweddar; ddim yn gwybod sut i gael mynediad at brawf; neu efallai’n gyndyn o fynd i un o’n canolfannau? Rydyn ni eisiau clywed gennych chi!
Rydyn ni wedi lleoli canolfannau profi COVID-19 ledled ein cymunedau, a nawr rydyn ni am wybod beth yw eich meddyliau a’ch safbwyntiau am y broses brofi. Wrth dreulio rhai munudau i gwblhau’r cwestiynau canlynol, byddwch yn ein helpu ni i ddynodi unrhyw rwystrau posibl i’r profi a allai fod yn cyfrannu at gynnydd yng ngraddfeydd y feirws yn ein cymunedau.
Mae’n bwysig iawn fod unrhyw un sy’n profi UNRHYW symptomau o COVID-19 yn derbyn prawf cyn gynted ag sy’n bosibl. Nid yn unig yw hyn yn diogelu pawb sy’n agos atoch chi, ond hefyd rhai o aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas.