Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gwaith ar fin dechrau ar orsaf fysiau newydd Merthyr Tudful
- Categorïau : Press Release
- 03 Gor 2019
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi cyhoeddi bod gwaith gwerth miliynau ar fin dechrau ar orsaf fysiau newydd yng nghanol tref Merthyr Tudful.
Mae’r adeiladu yn barod i ddechrau ar safle’r cyn orsaf heddlu ar Stryd yr Alarch ar 15 Gorffennaf a disgwylir iddo ddod i ben yn ystod hydref 2020. Mae’r orsaf fysiau bresennol oddi ar Stryd y Castell a bydd honno’n parhau i weithredu tan hynny.
“Ar ôl blynyddoedd o gynllunio, rydym wrth ein boddau y bydd yr adeiladwr ar y safle ac y bydd y gwaith yn dechrau ymhen rhai wythnosau,” dywedodd y Cynghorydd Kevin O’Neill.
Yr adeiladwr a benodwyd yw’r cwmni adeiladu ac adfywio Morgan Sindall, sydd ag enw da am gyflawni prosiectau cymhleth ar amser ac oddi fewn i gyllideb.
Bu’r cwmni’n ymwneud ag amryw helaeth o gynlluniau adeiladu yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddar, gan gynnwys Ysgol Gymunedol Tonyrefail, £44m; Gardd-bentref Loftus yng Nghasnewydd, £30m; ac adeiladu Ysgol Gynradd Six Bells yn Abertyleri, £7m.
Cafodd y prosiect ei gyd-gynllunio ag Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-ranbarth Caerdydd a bydd y Cyngor yn cadw gwasanaethau proffesiynol Capita i gefnogi rheoli’r contract adeiladu.
Fel rhan o’r contract, bydd Morgan Sindall yn cynnal digwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’, gan gynnig cyfleoedd cadwyn gyflenwi i fusnesau lleol.
Caiff yr orsaf fysiau newydd ei lleoli’n nes at orsaf reilffordd y dref gan greu cyfleuster cyfnewidfa drafnidiaeth fodern o ansawdd uchel. Bydd hefyd yn galluogi cyfleoedd datblygu cyffrous newydd i’w hystyried ar gyfer safle’r orsaf fws gyfredol.
“Unwaith eto, rydym ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ddarparu’r £10m o arian ar gyfer y datblygiad a fydd yn cydweddu â’i fuddsoddiad sylweddol yn Llinellau Craidd y Cymoedd,” dywedodd y Cynghorydd O’Neill.
“Rydym yn hyderus y bydd ein preswylwyr wrth eu boddau â’r cyfleuster hwn sy’n fawr ei angen ac ar flaen y gad ac a fydd yn sbarduno cam nesaf prif gynllun ailddatblygu ar gyfer dyfodol canol y dref.”