Ar-lein, Mae'n arbed amser
Gweithio ar y cyd i amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl o gael eu niweidio
- Categorïau : Press Release
- 11 Tach 2019
Mae heddiw (dydd Llun 11 Tachwedd) yn nodi dechrau Wythnos Diogelu 2019. Mae Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg, yn ogystal â phob Bwrdd Diogelu arall ledled Cymru, yn bachu ar y cyfle yma i weithio gyda'i bartneriaid i dynnu sylw at faterion diogelu a hyrwyddo gweithgareddau diogelu.
Mae Byrddau Diogelu yn bartneriaethau statudol o asiantaethau sy'n gyfrifol am ddiogelu plant ac oedolion mewn perygl yn eu rhanbarthau ac sy'n sicrhau bod pobl o bob oedran yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin a'u hesgeuluso, a mathau eraill o niwed.
Bydd yr wythnos yn dechrau trwy lansio Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan newydd. Mae'r rhain yn set unigol o ganllawiau diogelu i blant ac oedolion mewn perygl a byddan nhw'n safoni ymarfer ledled Cymru a rhwng asiantaethau a sectorau.
Prif ganolbwynt Wythnos Diogelu eleni i Fwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg, sy'n gwasanaethu Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, yw trais yn y cartref. Bydd y rhan fwyaf o weithgareddau fydd yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos yn canolbwyntio ar y mater yma. Yn ogystal â nifer o gyrsiau hyfforddi a sesiynau codi ymwybyddiaeth i'r cyhoedd, un o'r achlysuron allweddol yw 'Mynd i'r Afael â Thrais yn y Cartref – Gwybodaeth, Cyngor a Dysgu'. Mae'r achlysur galw heibio yma wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol a bydd yn cael ei gynnal ddydd Iau 14 Tachwedd, rhwng 10am a 4pm yn Redhouse, Merthyr Tudful. Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am yr achlysur yma trwy glicio ar y ddolen yma.
I weld yr holl weithgareddau sy'n cael eu cynnal yn ystod Wythnos Diogelu ledled RhCT, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, cliciwch ar y ddolen yma.
Meddai Cyd-gadeiryddion Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg, Giovanni Isingrini, Lisa Curtis Jones a Sue Cooper:
"Thema Wythnos Diogelu eleni yng Nghwm Taf Morgannwg yw trais yn y cartref, sydd â sawl ffurf wahanol. Dydy trais yn y cartref ddim yn dderbyniol a dydy'r unigolyn sy'n dioddef ddim ar fai o gwbl.
"Yn RhCT, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, mae nifer o wasanaethau trais yn y cartref ac fel Bwrdd, rydyn ni'n gweithio'n galed gyda'n partneriaid i godi ymwybyddiaeth o'r rhain i sicrhau bod dynion a menywod sy'n dioddef trais yn y cartref yn effro i'r cymorth sydd ar gael. Trwy ddarparu'r wybodaeth yna, rydyn ni'n gobeithio rhoi'r hyder iddyn nhw i wneud y cam cyntaf."
Os ydych chi'n amau bod plentyn, person ifanc neu oedolyn mewn perygl o gael ei niweidio neu'i esgeuluso, defnyddiwch y rhifau ffôn isod:
|
Rhondda Cynon Taf |
Merthyr Tudful |
Pen-y-bont ar Ogwr |
Oedolion |
(01443) 425003 |
(01685) 725000 |
(01656) 642320 |
Plant |
(01443) 425006 |
(01685) 725000 |
(01656) 642477 |
Rhif ffôn Carfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau y tu allan i oriau'r swyddfa yw: 01443 743665
Os ydych chi'n amau bod unigolyn mewn perygl uniongyrchol o niwed, ffoniwch 999 a siarad â'r Heddlu.
Mae pawb yn gyfrifol am faterion diogelu plant.
Am wybodaeth am Fwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg, ewch i www.ctmsb.co.uk a dilyn ei dudalen Facebook @Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg.